Iöb 17 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XVII.

1Fy anadl a ddistrywiwyd,

Fy nyddiau a ddiffoddwyd,

Y beddau (sydd) i mi.

2Yn ddïau gwawdwŷr (sydd) gyda mi,

Ac ar eu gwrthwynebiad yr erys fy llygad.

3 Dyro (wystl) i lawr, attolwg, bydd feichiau drosof fi gyda Thi!

— Pwy (yw) efe a dery ei law yn fy llaw i? —

4Canys eu calon hwynt Ti a orchuddiaist rhag deall,

Am hynny ni ddyrchefi Di hwynt.

5I’r anrhaith y bradychodd (un) gyfeillion,

— Llygaid ei feibion ef a ballant, —

6Ac a’m gosododd yn ddïareb i’r bobl,

Un i boeri i’w wyneb wyf fi,

7Fel y pallodd fy llygad gan dristwch,

Ac (y mae) fy aelodau oll fel cysgod.

8 Synnu a wna’r rhai uniawn am hyn,

A’r diniweid yn erbyn y drygionus a ymddeffry,

9Ac fe ddeil y cyfiawn ei ffordd,

A’r glân ei ddwylaw a chwannega gryfder.

10 Ond chwi oll, dychwelwch, a deuwch, attolwg,

Ac ni châf ganfod yn eich plith (wr) doeth.

11Fy nyddiau a aeth heibio,

Fy amcanion a dorrwyd ymaith, (Sef) meddiannau fy nghalon.

12 (Ië) goleuni yn nês na gwyneb tywyllwch!

13Os gobeithiaf, annwn (yw) fy nhŷ,

Yn y tywyllwch y taenaf fy ngwely,

14At y bedd yr wyf yn galw “Fy nhad tydi,”

At y pryf “Fy mam” a “Fy chwaer:”

15Gan hynny, pa le yn awr (y mae) fy ngobeithion,

Ië, fy ngobeithion pwy a’u gwel? —

16I drosolion annwn yr ânt hwy i lawr,

Yn ddïau, ynghŷd i’r llwch y disgynwn ni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help