1Gweddi o eiddo Dafydd.
Clyw, Iehofah, yr iawn achos,
Gwrando fy llefain,
Dyro glust i ’m gweddi,
—Nid yngwefusau twyllodrus (y mae),—
2Oddi ger Dy fron fy marn a ddaw allan,
Dy lygaid a welant yr hyn sydd uniawn;
3Profaist fy nghalon, gofwyaist (hi) y nos,
Chwiliaist fi heb ddarganfod drwg fwriadau ynof
Nac fy ngenau yn troseddu:
4Am weithredoedd dynion—trwy air Dy wefusau Di,
Myfi a ymochelais rhag llwybrau ’r treisig,
5Daliodd fy ngherddediad at Dy ffyrdd Di
Heb ddim siglo o ’m camrau.
6Myfi wyf yn galw Arnat, canys gwrandewi arnaf, O Dduw;
Gogwydda Dy glust attaf fi, clyw fy ymadrodd!
7Dangos Dy ryfedd drugareddau, O Gynhorthwywr yr ymnoddwyr (Ynot).
Rhag yr ymgodwyr yn erbyn Dy ddeheulaw!
8Cadw fi fel dynyn mablygad,
Dan gysgod Dy adennydd cudd fi,
9Rhag yr annuwiolion a’r sy’n ymosod arnaf,
Y gelynion marwol a’r sy’n fy amgylchu;
10Eu calon fras a gauasant hwy,
A’u genau y llefarant mewn balchder;
11Am ein camrau ni,—yn awr hwy a’m cylchynasant,
Eu llygaid a osodasant hwy i wyro yn y tir;
12 Ei ddull (sydd) fel llew a chwennych rwygo,
Ac fel llew ieuangc yn eistedd yn y dirgel.
13Cyfod, O Iehofah,
Achub ei flaen ef, dymchwel ef,
Gwared fy enaid rhag yr annuwiol â ’th gleddyf,
14Rhag dynion,—trwy Dy law Di, O Iehofah,
Rhag dynion y byd, a ’r sydd â ’u rhan yn y bywyd (hwn);
(Y rhai) â ’th drysorau y llenwaist eu bòliau,
Gorddigonir hwy â meibion,
A gadawant eu gweddill i ’w plant:
15Myfi—mewn cyfiawnder yr edrychaf ar Dy wyneb,
Gorddigonir fi, pan ddihunwyf, â ’th ddelw Di.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.