1Yna yr attebodd Iöb, a dywedodd,
2 Pa wedd y cynnorthwyaist ti y diffygiol o nerth,
Y cynneliaist fraich y diffygiol o gadernid!
3Pa wedd y cynghoraist y diffygiol o ddoethineb,
Ac yr hyspysaist ddysbwyll yn ehelaeth!
4I bwy yr adroddaist ti ymadrodd?
Ac anadl pwy a ddaeth allan o honot?
5 Y gwyllion a ddychrynir oddi tanodd,
Y dyfroedd a’u trigolion;
6Noeth (yw) annwn ger Ei fron Ef,
Ac nid (oes) orchudd i ddifancoll;
7(Ef), yr Hwn sy’n taenu ’r gogledd ar wagder,
Yr Hwn sy’n crogi ’r ddaear ar ddiddym;
8Yr Hwn sy’n cau i fynu ddyfroedd yn Ei gymmylau duon,
Ac ni holltir y cwmmwl tanynt hwy;
9Yr Hwn sy’n cadw (rhagom) wyneb Ei orsedd-fainge,
Gan ddarledu arni hi Ei gwmmwl;
10Terfyn crwn a roddodd Efe ar wyneb y dyfroedd,
Hyd berffeithrwydd, ar y goleuni ynghŷda ’r tywyllwch;
11Colofnau ’r nefoedd ŷnt yn crynu,
Ac mewn syndod, rhag Ei sèniad Ef;
12Trwy Ei nerth y cynhyrfa Efe y dyfroedd,
fföedig:
14 Wele, hyn (ydynt) eithafion Ei ffyrdd Ef;
A’r fath hustyng o air yw’r hyn a glywsom;
Ond taran Ei gadernid Ef — pwy a’i deall?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.