1Yna yr attebodd Tsophar y Naamathiad, a dywedodd,
2Am hyn fy meddyliau sy’n rhoddi atteb i mi,
Ac o herwydd (hyn y mae) fy mrys ynof;
3 ddrygioni ef;
11Ei esgyrn oeddynt lawn o (nerth) ei ieuengctid,
Ond gydag ef yn y pridd y gorwedd (hynny);
12Er mai melus yn ei enau oedd drygioni,
Iddo ei guddio tàn ei dafod,
13Iddo ei arbed ac heb ei ado,
Eithr ei attal o fewn taflod ei enau,
14Ei fwyd yn ei ymysgaroedd a newidiwyd,
Bustl aspiaid (sydd) o’i fewn ef;
15Cyfoeth a lyngcodd efe — ac a’i chwyda,
Allan o’i fòl y rhwyga Duw ef;
16Gwenwyn aspiaid a sugnodd efe,
Ei ladd ef y mae tafod gwiber;
17 Ni chaiff weled cornentydd,
Afonydd ffrydiawl o fêl ac ymenyn:
18Gan roddi adref (ffrwyth ei) lafur ni chaiff ei lyngcu,
Yn ol y cyfoeth (y mae) ei atdaliad, ac ni orfoledda (ynddo);
19Am iddo ddryllio, iddo adaw ’r gweiniaid,
Iddo anrheithio tŷ, — ond ni chaiff ei adeiladu;
20 Am na wybu efe am lonyddwch yn ei fòl,
Gyda ’i ddymuniad ni chaiff ddïangc;
21Nid oedd a weddilliwyd gan ei ysiad ef,
Gan hynny ni pharhâ ei wynfyd;
22Ynghyflawnder ei helaethrwydd cyfyng fydd arno,
Pob llaw ’r truenus arno a ddaw;
23A bydd, er mwyn llenwi ei fòl,
(Duw) a ddenfyn arno angerdd Ei lid,
Ac a wlawia arnynt â’u hymborth;
24 Ffoi a wna efe rhag yr arfau haiarn,
Ei drywanu ef a wna ’r bwa pres,
25Fe dỳn efe ’(r saeth) allan — allan o’i gorph y daw hi,
Y gloyw-arf allan o’i fustl a aiff;
Arno echrysau (sydd)!
26Pob tywyllwch a ddirgel-gadwyd i’w (drysorau) cuddiedig,
Ei fwytta ef a wna tân, nid chwythedig,
(Ac) ysu y neb a weddillir yn ei babell ef;
27 Fe ddatguddia ’r nefoedd ei anwiredd ef,
A’r ddaear sy’n ymgodi yn ei erbyn;
28Fe ymfuda cynnydd ei dŷ,
Ei grafedig (olud), yn nydd Ei ddigofaint Ef:
29 Hon (yw) rhan dyn annuwiol gan yr Arglwydd,
A’r etifeddiaeth a ordeiniwyd iddo gan Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.