Galatiaid 5 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A rhyddid Crist a’n rhyddhaodd ni; sefwch, gan hyny; a than iau caethiwed na’ch dalier drachefn.

2Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os amdorrir chwi, Crist ni’ch llesa chwi ddim.

3A thystiolaethu yr wyf drachefn i bob dyn yr amdorrir arno mai dyledwr yw i wneuthur yr holl Gyfraith.

4Difudd y’ch gwnaed oddiwrth Grist y rhai yn y Gyfraith a ymgyfiawnhewch; oddiwrth ras y syrthiasoch.

5Canys nyni, trwy’r Yspryd, o ffydd y disgwyliwn obaith cyfiawnder;

6canys yng Nghrist Iesu amdorriad ni all ddim, na diamdorriad, eithr ffydd yn gweithio trwy gariad.

7Rhedeg yn dda yr oeddych. Pwy a’ch rhwystrodd fel i’r gwirionedd nad ufuddhaech?

8Y perswadio, nid o’r hwn sydd yn eich galw y mae.

9Gan ychydig lefain yr holl does a lefeinir.

10Myfi a ymddiriedaf tuag attoch yn yr Arglwydd, nad dim amgen a syniwch; ond yr hwn sydd yn eich cythryflu a ddwg ei farnedigaeth, pwy bynnag fyddo.

11Ond myfi, frodyr, os amdorriad yr wyf etto yn ei bregethu, paham y’m herlidir etto? Yna y diddymwyd tramgwydd y Groes.

12O na thorrid ymaith y rhai sydd yn eich ansefydlu!

13Canys chwychwi, er rhyddid y’ch galwyd, frodyr; yn unig nac arferwch y rhyddid er achlysur i’r cnawd, eithr trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd:

14canys yr holl Gyfraith, mewn un gair y cyflawnwyd, sef yn hwn, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun;”

15ond os brathu a thraflyngeu eich gilydd yr ydych, gwyliwch nad gan eich gilydd y’ch difether.

16Ond dywedyd yr wyf, Yn yr Yspryd rhodiwch, a chwant y cnawd na chyflawnwch mo’no;

17canys y cnawd a chwennych yn erbyn yr Yspryd, a’r Yspryd yn erbyn y cnawd, canys y rhai hyn ydynt wrthwynebol i’w gilydd, fel y pethau a ewyllysioch na wneloch.

18Ond os gan yr Yspryd y’ch arweinir, nid ydych dan y Gyfraith.

19Ac amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai ydynt godineb,

20aflendid, anlladrwydd, delw-addoliaeth, swyn-gyfaredd, casineb, cynhen, eiddigedd, llid, ymrysonau, ymraniadau,

21heresiau, cynfigennau, meddwdod, cyfeddach, a’r pethau cyffelyb i’r rhai hyn; am y rhai y rhybuddiaf chwi, fel y rhag-ddywedais, Y rhai sy’n gwneuthur y cyfryw bethau, teyrnas Dduw nid etifeddant.

22Ond ffrwyth yr Yspryd yw, Cariad, llawenydd, tangnefedd, hir-ymaros, cymmwynasgarwch,

23daioni, ffydd, addfwynder, dirwest; yn erbyn y cyfryw bethau nid oes cyfraith.

24A’r rhai sydd yn eiddo Crist Iesu, y cnawd a groes-hoeliasant ynghyda’i wyniau a’i chwantau.

25Os byw yr ydym yn yr Yspryd, yn yr Yspryd rhodiwn hefyd.

26Na fyddwn wag-ogoneddgar, yn herio ein gilydd, yn cynfigennu wrth ein gilydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help