S. Matthew 18 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Yr awr honno daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy, ynte, sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?

2Ac wedi galw fachgenyn Atto, gosododd ef yn eu canol,

3a dywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, Os na’ch troer a myned fel plant bychain, nid ewch i mewn er dim i deyrnas nefoedd.

4Pwy bynnag, gan hyny, a’i gostyngo ei hun fel y plentyn hwn, efe yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd.

5A phwy bynnag a dderbynio un plentyn o’r fath yn Fy enw,

6Myfi a dderbyn efe: a phwy bynnag a baro dramgwydd i un o’r rhai bychain hyn y sy’n credu Ynof, da fyddai iddo, pe crogid maen melin mawr am ei wddf, a’i foddi yn eigion y môr.

7Gwae’r byd oblegid tramgwyddau; canys angenrhaid yw dyfod tramgwyddau; ond gwae’r dyn hwnw, trwy’r hwn y mae’r tramgwydd yn dyfod.

8Ac os dy law neu dy droed a bair dramgwydd i ti, tor ef ymaith, a thafi oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn anafus neu yn gloff, nag a dwylaw neu ddau droed genyt, dy daflu i’r tân tragywyddol.

9Ac os dy lygad a bair dramgwydd, tyn ef allan a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn unllygeidiog fyned i mewn i’r bywyd, nag a dau lygad genyt dy daflu i’r Gehenna tanllyd.

10Edrychwch na ddirmygoch un o’r rhai bychain hyn, canys dywedaf wrthych, Eu hangylion yn y nefoedd bob amser a welant wyneb Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd. Pa beth yw eich barn chwi?

12Os bydd gan ryw ddyn gant o ddefaid, a myned o un o honynt ar gyfeiliorn, onid, gan adael y cant namyn un, i’r mynyddoedd yr aiff, a cheisio yr hon a aeth ar gyfeiliorn?

13Ac os bydd ei chael ganddo, yn wir meddaf i chwi, llawenycha drosti mwy na thros y cant namyn un y rhai nid aethent ar gyfeiliorn.

14Felly nid oes ewyllys gan eich Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli’r un o’r rhai bychain hyn.

15Ac os pechu yn dy erbyn a wna dy frawd, dos ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ar ei ben ei hun. Os arnat y gwrandawo, ynnillaist dy frawd.

16Ond os na wrandawo, cymmer gyda thi etto un neu ddau, fel yngenau dau neu dri o dystion y sefydler pob gair.

17Ac os esgeulusa wrando arnynt, dywaid wrth yr eglwys; ac os ar yr eglwys yr esgeulusa wrando, bydded i ti fel yr ethnig a’r treth-gymmerwr.

18Yn wir y dywedaf wrthych, Pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear, fyddant wedi eu rhwymo yn y nef; a pha bethau bynnag a ollyngoch ar y ddaear, fyddant wedi eu gollwng yn y nef.

19Etto y dywedaf wrthych, Os dau o honoch a gydsyniant ar y ddaear am neb rhyw beth a ofynant, bydd efe iddynt gan Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd,

20canys lle y mae dau neu dri wedi ymgynnull yn Fy enw I, yno yr wyf yn eu canol.

21Yna, wedi dyfod Atto, Petr a ddywedodd Wrtho, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i’m herbyn, ac y maddeuaf iddo?

22Ai hyd seithwaith? Dywedodd yr Iesu wrtho, Ni ddywedaf wrthyt hyd seithwaith, eithr hyd ddengwaith a thrugain seithwaith.

23Gan hyny, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i frenhin a ewyllysiodd gymmeryd cyfrif gyda’i weision.

24Ac wedi dechreu o hono ei gymmeryd, dygpwyd atto ddyledwr o ddeng mil o dalentau.

25Ac efe heb ganddo fodd i dalu, archodd ei arglwydd ei werthu ef, a’i wraig, a’i blant, a’r cwbl o’r a feddai, a thalu’r ddyled.

26Wedi syrthio i lawr, gan hyny, y gwas a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a’r cwbl a dalaf i ti.

27A chan dosturio, arglwydd y gwas hwnw a’i gollyngodd, a’r ddyled a faddeuodd efe iddo.

28Ac wedi myned allan, y gwas hwnw a gafodd un o’i gydweision, yr hwn yr oedd arno iddo gàn denar; ac wedi ymaflyd ynddo, llindagodd ef, gan ddywedyd, Tâl, os oes arnat ddim.

29Wedi syrthio i lawr, gan hyny, ei gydwas a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf a thalaf i ti.

30Ac efe ni fynai; eithr, wedi myned ymaith, bwriodd ef yngharchar hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus. Gan weled, gan hyny, o’i gydweision y pethau a wnelsid,

31poenwyd hwynt yn ddirfawr: ac wedi myned, mynegasant i’w harglwydd yr holl bethau a wnelsid.

32Yna, wedi ei alw ef atto, ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Gwas drwg, yr holl ddyled honno a faddeuais i ti am i ti ymbil â mi;

33ac onid oedd rhaid i ti hefyd dosturio wrth dy gydwas, fel y bu i mi dosturio wrthyt ti?

34Ac wedi digio, ei arglwydd a’i traddododd ef i’r poenwyr, hyd oni thalai yr oll oedd ddyledus.

35Felly hefyd Fy Nhad nefol a wna i chwi, os na faddeuoch, bob un i’w frawd, o’ch calon.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help