1Geiriau Lemwël frenhin;
Ymadrodd a ddysgodd ei fam iddo.
2Pa beth, fy mab?
Pa beth, fab fy nghroth?
Pa beth, fab fy addunedau?
3Na ddyro i wragedd dy nerth,
Na ’th ffyrdd i ddinystryddesau brenhinoedd.
4Nid i frenhinoedd, O Lemwël,
Nid i frenhinoedd (boed) yfed gwin,
Nac i dywysogion (boed) y mêdd,
5Rhag yfed o hono ac ebargofi ’r ddeddf,
A gwyro achos holl feibion cystudd;
6Rhoddwch y mêdd i’r neb sydd ar ddarfod am dano,
A’r gwin i’r chwerwon (eu) henaid,
7Yfed efe, ac ebargofed— ei dlodi,
A’i flinfyd na chofied efe mwy.
8Agor dy enau dros y mud,
Yn achos holl feibion amddifadrwydd.
9Agor dy enau, barn yn gyfiawn,
A dadleu dros y truan a’r anghenus.
10I wraig rinweddol pwy a gaiff hyd?
A phell tu hwnt i berlau (yw) ei gwerth hi!
11Ymhyderu ynddi y mae ei phriod,
Ac o elw ni bydd iddo ddiffyg;
12Gwna hi les iddo, ac nid drwg,
Yn ystod holl ddyddiau ei bywyd:
13Cais hi wlan a llin,
A gweithia âg ewyllys ei dwylaw:
14Y mae hi fel llong marsiandwr,
O bell y dwg hi ei hymborth;
15Cwyd a hi etto yn nos,
A rhydd fwyd i’w thylwyth,
A’(u) tasg i’w llangcesau;
16Dyd ei meddwl ar faes, ac a’i caiff ef,
O ffrwyth ei dwylaw (y mae) plannu gwinllan;
17Gwregysa ei llwynau â nerth,
A chryfhâ ei breichiau;
18Archwaetha mai da (yw) ei hennill,
Ar hŷd y nos ni ddiffydd ei llusern;
19Ei dwylaw a rydd hi ar y werthyd,
A cheuedd ei dwylaw a ymeifl yn y cogail;
20Ceudd ei llaw a egyr hi i’r truan,
A’i dwylaw a estyn hi i’r anghenus;
21Nid ofna am ei thŷ rhag yr eira,
Canys ei holl dŷ a ddilledir ag ysgarlad;
22 Hynod yw ei phriod yn y pyrth,
Pan eisteddo gyda henuriad y wlad;
24Crysau a wna hi ac a’(u) gwerth,
A gwregysau a rydd hi at y marsiandwyr;
25Nerth ac ardderchowgrwydd (yw) ei gwisg,
A chwardd hi am ben yr amser i ddyfod;
26Ei genau a egyr hi mewn doethineb,
A chyfraith cariad (sydd) ar ei thafod;
27Golyga ffyrdd ei thylwyth,
A bara syrthni ni fwytty;
28Cwyd ei phlant, a gwynfydedig y’i galwant,
Ei phriod (hefyd,)—ac a’i mawl (gan ddywedyd).
29“Llawer merch a arferodd rinwedd,
Ond tydi a ragoraist arnynt oll!”
30Twyll (yw) tlysni, a tharth (yw) tegwch!
Gwraig yn ofni Iehofah,—hyhi sydd i’w moli!
31Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylaw,
A molwch ei gweithredoedd, yn y pyrth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.