1Fy mab, os bu i ti fechnïo i ’th gymmydog,
Darawo dy law âg un nid o ’th dŷ,
2Dy faglu dy hun â geiriau dy enau,
(A) chael dy ddàl â geiriau dy enau;
3Gwna hyn yn awr, fy mab, ac achub dy hun,
—Canys wedi myned yr wyt i law dy gymmydog—
Dos, ymorchreinia, a thaer-attolwg i ’th gymmydog,
4Na ddyro gwsg i ’th lygaid,
Na hûn i ’th amrantau,
5Achub dy hun, fel iyrches o ’r fagl,
Ac fel aderyn o law yr adarwr.
6Dos at y morgrugyn, O swrth,
Edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth;
7Yn hwn nid (oes) ganddo dywysog,
Arolygydd, na llywodraethwr;
8(Etto) efe a barottöa, yn yr haf, ei fwyd,
Ac a gasgl, yn y cynhauaf, ei ymborth.
9Pa hyd, O swrth, y gorweddi di,
Pa bryd y cyfodi o ’th gwsg?
10“Ychydig gysgu—ychydig hepian—
Ychydig blethu dwylaw i huno,”
11Ac, fel ymdeithydd, y daw dy dlodi,
A ’th angen fel gwr â tharian.
12Y dihiryn, y dyn anwir,
Yn rhodio â gŵyrgamedd genau,
13Yn amneidio â ’i lygad,
Yn llefaru â ’i draed,
Yn rhoddi hyspysiad â ’i fysedd,
14Gyda gwrthgasedd yn ei galon,
Yn llunio drwg bob amser,
A haua gynhennau:
15Am hynny, yn disymmwth y daw ei ddinystr,
Mewn amrant y chwilfriwir ef, ac ni bydd meddyginiaeth.
16Y chwech hyn sydd gas gan Iehofah;
Ië, y saith (sydd) ffieidd-dra gan Ei enaid Ef;
17(Sef) llygaid beilchion,—tafod gau,—
A dwylaw yn tywallt gwaed gwirion,—
18Calon yn llunio meddyliau anwir,—
Traed yn prysuro i redeg i ddrygioni,—
19Celwydd-anadlwr o dyst gau,—
A hauwr cynhennau rhwng brodyr.
20Cadw, fy mab, orchymynion dy dad,
Ac na ollwng ymaith addysg dy fam;
21Rhwym hwynt ar dy galon beunydd,
Cwlwm hwynt am dy wddf;
22Pan rodiech, y tywysa efe di,
Pan orweddych, y gwylia drosot,
A phan ddeffröych y cydymddiddan â thi;
23Canys canwyll (yw) ’r gorchymyn, ac addysg (sydd) oleuni,
A ffordd bywyd (yw) argyhoeddiadau athrawiaeth,
24I ’th gadw rhag y fenyw ddrwg,
Rhag gweniaith tafod y wraig nid yr eiddot;
25Na chwennych ei cheinder hi yn dy galon,
Ac na ad iddi dy ddàl â ’i hamrantau,
26Canys gyda benyw butteiniog hyd at dorth o fara:
Ond gwraig gwr (arall)—
Enaid gwerthfawr y mae hi y n ei hela:
27A gymmer gŵr dân yn ei fynwes,
A ’i ddillad nid ysir?
28A rodia gŵr hŷd y marwor,
A ’i draed ni losgir?
29Felly yr hwn a êl at wraig ei gymmydog,
Nid digosp fydd y neb a gyffyrddo â hi.
30Ni ddïystyra (dynion) leidr, er iddo ladratta
Er mwyn diwallu ei enaid, am fod newyn arno,
31Ond os delir ef, efe a dâl yn saith ddyblyg,
Holl eiddo ei dŷ a gaiff efe ei roddi;
32Ond a odinebo â gwraig (sy) ddiffygiol o synwyr,
Gan ddifetha ei enaid ei hun y gwna hwn hyn;
33Tarawiad a gwarth a gaiff efe,
A ’i waradwydd ni ddilêir,
34Canys eiddigedd (sydd) ffyrnigawl-beth i ’r gwr,
Ac nid erbyd efe yn nydd dïal,
35Ni rydd efe fri ar unrhyw iawn,
Ac ni foddlonir ef er amlhâu o honot rodd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.