S. Ioan 9 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac wrth fyned heibio, gwelodd ddyn dall o’i enedigaeth.

2A gofyn Iddo a wnaeth Ei ddisgyblion, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn ai ei rieni, fel mai dall y genid ef?

3Attebodd yr Iesu, Hwn ni phechodd nac ei rieni; eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo.

4I ni y mae rhaid gweithio gweithredoedd yr Hwn a’m danfonodd tra y mae’r dydd: dyfod y mae’r nos, pan ni all neb weithio.

5Tra yn y byd yr wyf, goleuni’r byd ydwyf.

6Wedi dywedyd y geiriau hyn, poerodd ar lawr, a gwnaeth glai o’r poeryn, ac enneiniodd y clai ar ei lygaid ef, a dywedodd wrtho, Dos;

7ymolch yn llyn Shiloam (yr hwn a gyfieithir Danfonedig). Gan hyny yr aeth efe ymaith, ac ymolchodd, a daeth yn gweled.

8Y cymmydogion, gan hyny, ac y rhai a’i gwelent ef o’r blaen mai cardotyn ydoedd, a ddywedasant, Onid hwn yw’r dyn oedd yn eistedd ac yn cardotta?

9Eraill a ddywedasant, Nage, eithr tebyg iddo yw. Efe a ddywedodd, Myfi yw efe.

10Dywedasant, gan hyny, wrtho, Pa fodd, gan hyny, yr agorwyd dy lygaid di?

11Attebodd efe, Y dyn a elwir Iesu, clai a wnaeth Efe, ac enneiniodd fy llygaid i, a dywedodd wrthyf, “Dos i Shiloam ac ymolch.” Wedi myned, gan hyny, ac wedi ymolchi, fy ngolwg a gefais.

12A dywedasant wrtho, Pa le y mae Efe? Dywedodd, Nis gwn.

13Dygasant ef at y Pharisheaid, sef yr hwn oedd gynt yn ddall.

14A Sabbath oedd y dydd yn yr hwn y gwnaeth yr Iesu y clai, ac yr agorodd ei lygaid ef.

15Trachefn, gan hyny, y gofynodd y Pharisheaid iddo pa fodd y cawsai ei olwg. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd Efe ar fy llygaid i, ac ymolchais, a gweled yr wyf.

16Gan hyny y dywedodd rhai o’r Pharisheaid, Nid yw y dyn hwn o Dduw, gan mai y Sabbath ni cheidw. Ac eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y fath arwyddion?

17Ac ymraniad oedd yn eu plith. Dywedasant, gan hyny, drachefn wrth y dall, Pa beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am Dano Ef, am agoryd o Hono dy lygaid di?

18Ac efe a ddywedodd, Prophwyd yw. Gan hyny, ni chredodd yr Iwddewon am dano, mai dall fuasai, a chael o hono ei olwg, nes galw o honynt rieni yr hwn a gawsai ei olwg,

19a gofyn iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab, am yr hwn yr ydych chwi yn dweud mai dall y ganwyd ef? Pa fodd, gan hyny, y gwel efe yn awr?

20Attebodd ei rieni, a dywedasant, Gwyddom mai hwn yw ein mab, ac mai dall y ganwyd ef;

21ond pa fodd y mae efe yr awrhon yn gweled, nis gwyddom; neu pwy a agorodd ei lygaid ef, nyni nis gwyddom. Gofynwch iddo ef ei hun; mewn oedran y mae. Efe a lefara am dano ei hun.

22Hyn a ddywedodd ei rieni, oherwydd ofni o honynt yr Iwddewon, canys eisioes y cyttunasai yr Iwddewon, os cyfaddefai neb Ef yn Grist, y cai ei roi allan o’r sunagog.

23O achos hyn ei rieni a ddywedasant, Mewn oedran y mae; gofynwch iddo ef ei hun.

24Gan hyny, galwasant y dyn eilwaith, sef yr hwn a fuasai ddall, a dywedasant wrtho, Dyro ogoniant i Dduw. Nyni a wyddom fod y dyn hwn yn bechadur.

25Gan hyny yr attebodd efe, Ai pechadur yw, nis gwn. Un peth a wn, lle yr oeddwn yn ddall, yn awr y gwelaf.

26Dywedasant, gan hyny, wrtho, Pa beth a wnaeth Efe i ti? Pa fodd yr agorodd dy lygaid di?

27Attebodd iddynt, Dywedais wrthych eisoes, ac ni wrandawsoch. Paham yr ewyllysiwch glywed drachefn? A ydych chwi yn ewyllysio myned yn ddisgyblion iddo?

28A difenwasant ef, a dywedasant, Tydi sydd ddisgybl Iddo Ef, ond nyni, i Mosheh yr ydym yn ddisgyblion.

29Nyni a wyddom mai wrth Mosheh y llefarodd Duw; ond am Hwn, nis gwyddom o ba le y mae.

30Attebodd y dyn, a dywedodd wrthynt, Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd, nad ydych chwi yn gwybod o ba le y mae, ac agorodd Efe fy llygaid i.

31Gwyddom ar bechaduriaid nad yw Duw yn gwrando, ond os addolwr yw neb, ac Ei ewyllys Ef a wnelo efe, hwnw y mae yn ei wrando.

32Ni chlybuwyd erioed agoryd o neb lygaid un a anesid yn ddall.

33Oni bai Hwn o Dduw, ni allasai wneuthur dim.

34Attebasant, a dywedasant wrtho, Mewn pechodau y’th anwyd di oll; a thydi wyt yn ein dysgu ni! A bwriasant ef allan.

35Clywodd yr Iesu y bwriasant ef allan; a phan gafodd ef, dywedodd, A wyt ti yn credu ym Mab Duw?

36Attebedd efe a dywedodd, A phwy yw Efe, Arglwydd, fel y credwyf Ynddo?

37Dywedodd yr Iesu, Gwelaist Ef, ac yr Hwn sy’n llefaru â thi, Hwnw yw Efe.

38Ac efe a ddywedodd, Credu yr wyf, Arglwydd; ac addolodd Ef.

39A dywedodd yr Iesu, I farn Myfi a ddaethum i’r byd hwn, fel y bo i’r rhai na welant weled, ac i’r rhai sy’n gweled fyned yn ddeillion.

40Clywodd rhai o’r Phariseaid y pethau hyn, sef y rhai oedd gydag Ef, a dywedasant Wrtho, A ydym ninnau hefyd yn ddeillion?

41Dywedyd wrthynt a wnaeth yr Iesu, Pe deillion fyddech, ni fyddai genych bechod: ond yn awr y dywedwch, “Gwelwn,” a’ch pechod sy’n aros.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help