Psalmau 28 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXVIII

1(Psalm) o eiddo Dafydd.

Arnat Ti, O Iehofah, y galwaf,

Fy Nghraig, na fydd fud (gan droi) oddi wrthyf,

Rhag, wrth dewi o Honot (gan droi) oddi wrthyf,

Im’ gael fy nghystadlu â ’r rhai a ddisgynodd i ’r bedd!

2Erglyw lef fy ymbil pan waeddwyf Arnat,

Pan ddyrchafwyf fy nwylaw tu ag at Dy gafell sanctaidd!

3Na chipia fi ymaith ynghyda ’r drygionus, a chyda gweithredwyr anwiredd,

Y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymmydogion,

A drwg yn eu calon!

4Dyro iddynt hwy yn ol eu gweithred, yn ol drygioni eu gwaith,

Yn ol praith eu dwylaw dyro iddynt,

Tâl eu gorthwyl iddynt!

5Am nad ystyriant weithredoedd Iehofah,

Na gwaith Ei ddwylaw Ef,

Tyned Efe hwynt i lawr, ac nac adeiladed hwynt!

6Bendigedig (fo) Iehofah,

Canys erglywodd lef fy ymbil!

7Iehofah, fy Nerth, a’m Tarian,

Ynddo Ef yr ymhyderodd fy nghalon, a chynnorthwywyd fi!

Gan hynny gorfoledda fy nghalon,

Ac ar fy nghân y clodforaf Ef.

8Iehofah (sydd) Nerth i’w bobl,

Ac amddiffynfa waredawl Ei eneinniog (yw) Efe.

9Gwared Dy bobl, bendithia Dy etifeddiaeth,

A phortha hwynt, a fel bugail. Gwel Eshaiah 40:11; 63:9.dwg hwynt yn dragywydd!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help