Iöb 3 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

III.

1Wedi hyn yr agorodd Iöb ei enau a melldithiodd ddydd ei (enedigaeth);

2a llefarodd Iöb, a dywedodd,

3Darfydded am y dydd y’m ganwyd ynddo,

Ac am y nos a ddywedodd “Caed gwrryw.”

4Y dydd hwnnw, bydded efe yn dywyllwch,

Am dano ef nac ymofyned Duw oddi uchod,

Ac na thywynned arno lewyrch;

5Arddelwed tywyllwch a chysgod angeuaidd ef,

Arhosed arno gwmmwl,

Dychryned tywylliadau ’r dydd ef.

6Y nos honno, cymmered duedd hi,

Na lawenyched hi ym mysg dyddiau ’r flwyddyn,

Ac i rifedi ’r misoedd na ddeued hi.

7Y nos honno, bydded hi yn hesp,

Na ddeued llawen-gân ynddi;

8Melldithied mynegwŷr dyddiau anffodus hi,

Y rhai medrus i gyffroi ’r sarph anfeidrol;

9Tywyller ser ei chyfnos hi,

Disgwylied am oleuni ac na (fydded) iddi,

Ac na chaffed weled amrantau ’r wawr,

10Am na chauodd fy (nhrigfa) y grôth,

Ac (na) chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid.

11Pa ham na bu i mi farw o’r bru,

I mi ddyfod allan o’r grôth a threngu?

12 Yno y mae ’r annuwiolion yn peidio âg aflonyddu,

Ac yno y gorphwys y rhai a flinasant (eu) nerth;

18Yno ynghŷd y mae ’r cadwynedigion yn dawel,

Nid ŷnt yn clywed llais y gwaith-fynnwr:

19Y bychan, a’r mawr, yno (y mae) efe,

A’r gwas yn rhydd oddi wrth ei arglwydd.

20Pa ham y rhydd (un) i’r blinderus oleuni dydd,

A bywyd i’r rhai chwerw eu henaid,

21Y rhai sy’n disgwyl am angau ac ni (ddaw),

Ac yn chwilio am dano yn fwy nag am drysorau cuddiedig,

22Y rhai a lawenychent hyd orfoledd,

(Ië) hwy a ymhyfrydent pe caent fedd?

23(A pha ham) i’r dyn yr hwn y mae ei ffordd yn guddiedig,

Ac yr argauodd yr Arglwydd arno?

24Canys o flaen fy mwyd fy uchenaid sy’n dyfod,

Ac ymdywallt fel dyfroedd y mae fy rhuadau;

25Canys y peth ofnus ag yr wyf yn ei ofni sy’n digwydd i mi,

A’r hyn yr wyf yn ei arswydo sy’n dyfod arnaf:

26Nid oes i mi esmwythdra, ac nid oes i mi lonyddwch,

Nid oes i mi orphwysdra, ond dyfod y mae cyffraw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help