I. Corinthiaid 12 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac am ddoniau ysprydol, frodyr, nid ewyllysiaf i chwi fod heb wybod.

2Gwyddoch mai pan cenhedloedd oeddych, at yr eilunod mudion y’ch arweinid ymaith, ym mha fodd bynnag y’ch arweinid.

3Gan hyny, hyspysu i chwi yr wyf, nad yw neb, yn llefaru yn Yspryd Duw, yn dywedyd, Anathema yw’r Iesu; ac nad oes neb all ddywedyd, Yr Arglwydd yw’r Iesu, oddieithr trwy yr Yspryd Glân.

4Ac amryw ddoniau sydd, ond yr un Yspryd, ac amryw weinidogaethau sydd, ac yr un Arglwydd;

5ac amryw weithrediadau sydd, ond yr un Duw,

6yr Hwn sy’n gweithredu pob peth ym mhawb.

7Ond i bob un y rhoddwyd eglurhad yr Yspryd er llesad:

8canys i un, trwy yr Yspryd, y rhoddwyd ymadrodd doethineb; ac i arall, ymadrodd gwybodaeth, yn ol yr un Yspryd;

9i arall ffydd, gan yr un Yspryd; ac i arall ddoniau i iachau, gan yr un Yspryd;

10ac i arall, weithrediadau gwyrthiau; ac i arall, brophwydoliaeth; ac i arall, wahan-farnu ysprydoedd; i arall, amryw dafodau; ac i arall gyfieithiad tafodau.

11A’r holl bethau hyn a weithreda yr un a’r unrhyw Yspryd, gan rannu, o’r neilldu, i bob un fel yr ewyllysia.

12Canys fel y mae y corph yn un, ac aelodau lawer ganddo, a holl aelodau’r corph, a hwy yn llawer, un corph ydynt, felly hefyd y mae Crist;

13canys yn un Yspryd, nyni oll, i un corph y’n bedyddiwyd, pa un bynnag ai Iwddewon ai Groegwyr, ai caethion ai rhyddion; a’r oll o honom, ag un Yspryd y’n diodwyd.

14Canys y corph nid yw un aelod, eithr llawer.

15Os dywaid y troed, Am nad wyf law, nid wyf o’r corph, nid yw efe, gan hyny, “Nid o’r corph.”

16Ac os dywaid y glust, Am nad wyf lygad, nid wyf o’r corph, nid yw hi, gan hyny, “Nid o’r corph.”

17Pe yr holl gorph fyddai llygad, pa le y byddai’r clywed? Pe’r oll fyddai clywed, pa le y byddai’r arogliad?

18Ond yn awr, Duw a osododd yr aelodau, bob un o honynt, yn y corph fel yr ewyllysiodd.

19A phe bai’r oll yn un aelod, pa le y byddai’r corph?

20Ond yn awr, llawer aelod, ond un corph.

21Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Rhaid wrthyt nid oes arnaf; nac etto y pen wrth y traed, Rhaid wrthych nid oes arnaf.

22Eithr llawer mwy, yr aelodau o’r corph y sy’n edrych yn wannach, angenrheidiol ydynt;

23ac y rhannau o’r corph y tybiwn eu bod yn ammharchediccach, ar y rhai hyn y rhoddwn barch helaethach; ac ein rhannau anhardd, harddwch helaethach a gant;

24ond i’n rhannau hardd nid oes rhaid wrtho; eithr Duw a gyd-dymherodd y corph, gan roddi i’r rhan oedd ddiffygiol barch helaethach;

25fel na byddai sism yn y corph, eithr yr un pryder dros eu gilydd gan yr aelodau;

26a pha un bynnag ai dioddef a wna un aelod, cyd-ddioddef y mae yr holl aelodau; neu os gogoneddir aelod, cyd-lawenychu y mae yr holl aelodau.

27A chwychwi ydych gorph Crist, ac yn aelodau o ran.

28A rhai a osododd Duw yn yr eglwys; yn gyntaf, apostolion; yn ail, brophwydi; yn drydydd, athrawon; wedi hyny, wyrthiau; wedi hyny, ddoniau i iachau, cynnorthwyau, llywodraethau, rhywiogaethau tafodau.

29Ai pawb sydd apostolion? Ai pawb yn brophwydi? Ai pawb yn athrawon? Ai pawb yn wneuthurwyr gwyrthiau?

30Ai pawb sydd â doniau i iachau ganddynt? Ai pawb sy’n llefaru â thafodau? Ai pawb a gyfieithant?

31Ond ceisiwch y doniau mwyaf. Ac etto ffordd dra-rhagorol yr wyf yn ei dangos i chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help