1Paul a Silfanus a Thimothëus at eglwys y Thessaloniaid yn Nuw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.
2Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw Dad a’r Arglwydd Iesu Grist.
3Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol am danoch, frodyr, fel addas yw, gan mai mawr-gynnyddu y mae eich ffydd, ac ychwanegu y mae cariad pob un o’r oll o honoch tuag at eich gilydd,
4fel yr ydym ni ein hunain yn ymffrostio ynoch chwi yn eglwysi Duw o herwydd eich amynedd a ffydd, yn eich holl erlidiau a’r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef,
5yr hyn sydd argoel eglur o gyfiawn farn Duw, fel y’ch cyfrifer yn deilwng o deyrnas Dduw, tros yr hon yr ydych yn dioddef,
6gan mai cyfiawn yw gyda Duw, dalu i’r rhai sydd yn eich gorthrymmu orthrymder,
7ac i chwi a orthrymmir ysgafnhad ynghyda ni yn natguddiad yr Arglwydd Iesu o’r nef ynghydag angylion Ei allu,
8mewn tân fflamllyd, gan roddi dial i’r rhai nad adwaenant Dduw,
9ac nad ufuddhant i Efengyl ein Harglwydd Iesu, y rhai a dalant y gosp, sef dinystr tragywyddol ymaith oddiwrth wyneb yr Arglwydd,
10ac oddiwrth ogoniant Ei nerth, pan ddelo i’w ogoneddu yn Ei saint, ac i’w ryfeddu yn yr holl rai a gredasant (canys credwyd ein tystiolaeth i chwi) yn y dydd hwnw.
11Ac er mwyn hyn, gweddïo hefyd yr ydym yn wastadol drosoch, fel eich cyfrif chwi yn deilwng o’ch galwedigaeth a fo i’n Duw, ac y cyflawno bob boddlonrwydd daioni a gwaith ffydd, gyda gallu;
12fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch, a chwithau Ynddo Ef, yn ol gras ein Duw a’r Arglwydd Iesu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.