1Doethineb a adeiladodd ei thŷ,
Naddodd ei cholofnau, saith (o honynt);
2Lladdodd ei hanifeiliaid, cymmysgodd ei gwin,
Gosododd allan ei bwrdd;
3Gyrrodd ei llangcesau, (a) chyhoeddodd
Ar fannau uchel y ddinas,
4“Pwy bynnag (sydd) syml, tröed efe yma
A’r diffygiol o feddwl, hi a ddywaid wrtho,
5Deuwch, bwyttêwch o ’m bara,
Ac yfwch o ’r gwin a gymmysgais;
6Ymadewch â symledd a byddwch fyw,
A cherddwch yn ffordd deall;
7A geryddo watwarwr a gaiff iddo ei hun waradwydd,
Ac a argyhoeddo ’r drygionus (a gaiff) ystaen iddo;
8Nac argyhoedda watwarwr rhag cashâu o honaw dydi,
Argyhoedda ’r doeth, ac efe a’th gâr;
9Dyro i ’r doeth, ac efe a â etto ’n ddoethach,
Cyfarwydda ’r cyfiawn, ac efe a chwannega ddysgeidiaeth:
10Dechreuad doethineb (yw) ofn Iehofah,
A gwybodaeth o ’r Sanctaidd (sydd) ddeall;
11Canys trwof fi yr amlhêir dy ddyddiau,
Ac y chwanegir i ti flynyddoedd bywyd:
12Os doeth fyddi, doeth fyddi i ti dy hun,
Ac (os) gwatwarwr fyddi, tydi yn unig a ddioddefi.
13Y wraig annoeth (sydd) drystfawr,
Yn wirion, ac ni ŵyr ddim;
14Ac eistedda wrth ddrws ei thŷ,
Ar orseddfaingc (yn) uchel fannau ’r ddinas,
15I wahodd y sawl sy’n tramwyo ’r ffordd,
Y rhai sy ’n iawn-gyfarwyddo eu llwybrau, (gan ddywedyd)
16Pwy bynnag (sydd) syml, tröed efe yma;”
A’r diffygiol o feddwl, hi a ddywaid wrtho,
17“Dyfroedd lladradaidd sydd felus,
A bara cudd sydd beraidd,”
18Ond ni ŵyr efe mai gwyllion (sydd) yno,
Ac yn nyfnderau annwn fod ei gwahoddedigion hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.