Yr Actau 28 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac wedi dyfod yn ddiangol, yna y gwybuant mai Melita a elwid yr ynys.

2A’r barbariaid a ddangosasant i ni ddyngarwch nid cyffredin; canys cynneuasant dân, a derbyniasant yr oll o honom, o herwydd y gwlaw cynrychiol, ac o herwydd yr oerfel.

3Ac wedi casglu o Paul ryw faint o friw-wydd, ac eu dodi ar y tân, gwyber wedi dyfod allan o achos y gwres, a lynodd wrth ei law ef.

4A phan welodd y barbariaid y bwystfil yn nghrog wrth ei law, dywedasant wrth eu gilydd, Yn sicr llofrudd yw y dyn hwn, yr hwn, wedi ei achub o’r môr, cyfiawnder ni adawodd iddo fyw.

5Efe, gan hyny, wedi ysgwyd ymaith y bwystfil i’r tân, ni oddefodd ddim niweid.

6A hwy a ddisgwylient ei fod ar fedr chwyddo neu syrthio i lawr yn ddisymmwth yn farw; a phan am amser hir y disgwylient, ac y gwelent nad oedd dim niweid yn digwydd iddo, gan newid eu meddwl, dywedasant mai duw oedd efe.

7Ac yn agos i’r fan honno yr oedd tiroedd yn perthyn i bennaeth yr ynys, a’i enw Publius, yr hwn a’n derbyniodd, a thridiau y llettyodd ni yn garedig.

8A digwyddodd fod tad Publius, wedi ei ddala gan gryd a gwaedlif, yn cadw ei wely; at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn, a gweddïo, gan ddodi ei ddwylaw arno, yr iachaodd ef.

9A hyn wedi digwydd, y lleill hefyd, y rhai yn yr ynys oedd a chanddynt heintiau, a ddaethant atto ac a iachawyd;

10y rhai hefyd, â llawer o anrhegion yr anrhydeddasant ni; ac wrth fyned o honom ymaith, rhoisant yn y llong y pethau yn perthyn i’n hangenrheidiau.

11Ac wedi tri mis aethom ymaith mewn llong a auafasai yn yr ynys, un o Alexandria, a’i harwydd Dioscwroi.

12Ac wedi troi i mewn i Suracwsai, arhosasom yno dridiau.

13Ac oddi yno, wedi myned o amgylch, y daethom i Rhegium; ac ar ol un diwrnod deheu-wynt a gyfododd, ac yr ail ddydd daethom i Puteoli;

14lle y cawsom frodyr, ac y dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod; ac felly i Rhufain y daethom.

15Ac oddi yno, y brodyr, wedi clywed am danom, a ddaethant i’n cyfarfod hyd Appii Fforum a Tres Tabernæ; a phan y’u gwelodd, Paul a ddiolchodd i Dduw ac a gymmerth galon.

16A phan ddaethom i Rhufain, caniattawyd i Paul aros wrtho ei hun, ynghyda’r milwr oedd yn ei gadw ef.

17A digwyddodd, ar ol tridiau, alw o hono ynghyd y rhai oedd bennaf o’r Iwddewon: ac wedi dyfod o honynt ynghyd, dywedodd wrthynt, Myfi, frodyr, heb wneuthur o honof ddim yn erbyn y bobl na defodau ein tadau, yn garcharor y’m rhoddwyd o Ierwshalem i ddwylaw y Rhufeinwyr,

18y rhai, wedi fy holi, a fynnasant fy ngollwng yn rhydd, gan nad oedd dim achos angau ynof.

19Ond pan wrth-ddywedai yr Iwddewon, cymhellwyd fi i appelio at Cesar, nid fel pettai genyf ddim i gyhuddo fy nghenedl o hono.

20Am yr achos hwn, gan hyny, y deisyfiais arnoch weled ac ymddiddan â mi, canys o achos gobaith Israel yr wyf a’r gadwyn hon am danaf.

21A hwy a ddywedasant wrtho, Nyni, na llythyrau am danat ni chawsom o Iwdea, na neb o’r brodyr wedi dyfod yma, a fynegodd nac a lefarodd ddim drwg am danat.

22Ond dymunem glywed genyt ti pa beth yw dy feddwl, canys am y sect hon, hyspys yw i ni mai ymhob man y dywedir yn ei herbyn.

23Ac wedi gosod o honynt ddiwrnod iddo, daethant atto i’w letty, llawer o honynt; i’r rhai yr esponiodd efe, gan dystiolaethu teyrnas Dduw, a’u perswadio ynghylch yr Iesu, allan o Gyfraith Mosheh, a’r Prophwydi, o’r bore hyd yr hwyr.

24A rhai a gredasant y pethau a ddywedwyd a rhai ni chredasant.

25Ac yn anghyttun â’u gilydd, yr ymadawsant, wedi dywedyd o Paul un gair, sef, Da y bu i’r Yspryd Glân lefaru, trwy Eshaiah y prophwyd,

26wrth eich tadau, gan ddywedyd,

“Dos at y bobl hyn a dywaid,

A chlyw y clywch, ond ni ddeallwch;

A chan weled y gwelwch ac ni chanfyddwch;

27Canys brasawyd calon y bobl hyn,

Ac â’u clustiau yn drwm y clywsant,

Ac eu llygaid a gauasant,

Rhag gweled o honynt â’u llygaid,

Ac â’u clustiau glywed,

Ac â’u calon ddeall,

A dychwelyd o honynt,

Ac iachau o honof hwynt.”

28Bydded hysbys, gan hyny, i chwi, mai i’r cenhedloedd y danfonwyd yr iachawdwriaeth hon o eiddo Duw; a hwy a wrandawant.

30Ac arhosodd ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun, a derbyniodd bawb a oedd yn dyfod i mewn atto,

31gan bregethu teyrnas Dduw, a dysgu’r pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyda phob hyder yn ddirwystr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help