1Anwylyd, nid i bob yspryd rhoddwch gred, eithr profwch yr ysprydion ai o Dduw y maent; canys llawer o au-brophwydi sydd wedi myned allan i’r byd.
2Wrth hyn adnabyddwch Yspryd Duw: Pob yspryd y sy’n cyffesu Iesu Grist wedi dyfod yn y cnawd, o Dduw y mae:
3pob yspryd nad yw’n cyffesu yr Iesu, o Dduw nid ydyw, a hwn yw yspryd yr Antigrist, am yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod; ac yn awr yn y byd y mae eisoes.
4Chwychwi o Dduw yr ydych, blant bychain: a gorchfygasoch hwynt, canys mwy yw’r Hwn sydd ynoch na’r hwn sydd yn y byd.
5Hwynt-hwy o’r byd y maent: o achos hyn o’r byd y llefarant, a’r byd sydd yn eu gwrando hwynt.
6Nyni, o Dduw yr ydym: yr hwn sy’n adnabod Duw, sydd yn ein gwrando; yr hwn nad yw o Dduw, nid yw yn ein gwrando. Oddiwrth hyn yr adnabyddwn Yspryd y gwirionedd, ac yspryd cyfeiliorni.
7Anwylyd, carwn ein gilydd, canys cariad o Dduw y mae; a phob un y sy’n caru, o Dduw y cenhedlwyd ef, ac adnabod Duw y mae.
8Yr hwn nad yw yn caru, nid yw’n adnabod Duw; canys Duw, cariad yw.
9Yn hyn yr amlygwyd cariad Duw ynom, am mai Ei Fab Unig-anedig a ddanfonodd Duw i’r byd, fel mai byw byddem Trwyddo Ef.
10Yn hyn y mae cariad, nid am mai nyni a garasom Dduw, eithr mai Efe a’n carodd ni, ac a ddanfonodd Ei Fab yn iawn am ein pechodau.
11Anwylyd, os felly y bu i Dduw ein caru, ninnau hefyd ddylem garu ein gilydd.
12Duw, ni fu i neb erioed Ei weled. Os carwn ein gilydd Duw sydd ynom yn aros, ac Ei gariad sydd wedi ei berffeithio ynom.
13Wrth hyn y gwyddom mai Ynddo Ef yr ym yn aros, ac Yntau ynom ni, gan mai o’i Yspryd y
14rhoddes i ni. Ac nyni a welsom, a thystiolaethu yr ydym ddarfod i’r Tad ddanfon y Mab yn Iachawdwr y byd.
15Pwy bynnag a gyffeso mai Iesu yw Mab Duw, Duw sydd ynddo ef yn aros, ac yntau yn Nuw.
16Ac nyni a wyddom ac a gredasom y cariad y sydd gan Dduw ynom. Duw, cariad yw; a’r hwn sy’n aros mewn cariad, yn Nuw y mae yn aros, a Duw sydd ynddo yntau yn aros.
17Yn hyn y perffeithiwyd cariad gyda ni, fel y bo hyder genym yn nydd y farn, canys fel y mae Efe, ninnau hefyd ydym yn y byd hwn.
18Ofn nid oes mewn cariad; eithr perffaith gariad, allan y teifl ofn, canys ofn sydd a chospedigaeth ganddo; a’r hwn sydd yn ofni ni pherffeithiwyd mewn cariad.
19Nyni a garwn, gan mai Efe yn gyntaf a’n carodd ni.
20Os rhyw un a ddywaid, Caru Duw yr wyf, ac ei frawd yn gas ganddo, celwyddwr yw; canys yr hwn nad yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, Duw, yr Hwn ni welodd efe, ni fedr efe Ei garu.
21Ac y gorchymyn hwn sydd genym oddiwrtho Ef; Fod i’r hwn sy’n caru Duw, garu ei frawd hefyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.