1Llefa â’th wddf, nac attal,
Fel udgorn dyrchafa dy lais,
A mynega i’m pobl eu camwedd,
Ac i dŷ Iacob eu pechodau.
2Etto Myfi dydd (ar) ddydd a geisiant hwy,
A gwybodaeth o’m ffordd a hoffant hwy;
Fel cenedl ag sy’n 2gwneuthur 1cyfiawnder
Ac â barnedigaeth ei Duw nad ymadawodd,
Gofynant i Mi farnedigaethau cyfiawnder,
Nesâu at Dduw yr hoffant.
3 Pa ham (meddant) yr ymprydiasom, ac nis gwelaist?
Y cystuddiasom ein henaid, ac nis gwybuost?
Wele! yn nydd eich ympryd yr ydych yn cael hyfrydwch,
A’ch holl lafur yr ydych yn ei fynnu.
4Wele, i ymryson a chynnen yr ymprydiwch,
Ac i daro â dwrn camwedd.
Nac ymprydiwch fel y dydd hwn
I beri clywed yn yr uchelder eich llais.
5Ai fel hwn yw ’r ympryd a ddewisais?
(Sef) dydd i gystuddio o ddyn ei enaid?
Ai crymmu, fel brwynen, ei ben,
A 3thaenu 1sachlïain a 2lludw,
Ai hyn a elwir yn ympryd
Ac yn ddiwrnod boddhâol i Iehofah?
6Onid hwn yma yw ’r ympryd a ddewisais,
(Sef) dattod rhwymau camwedd,
Tynnu ymaith gylymau ’r iau,
A gollwng y rhai drylliedig yn rhyddion,
A 2thorri o honoch 1bob 2iau?
7Onid rhannu i’r newynog dy fara,
A 『2dwyn o honot』 『1y trueiniaid crwydrawl』 i (’th) dŷ?
Pan welych un noeth, ei ddilladu,
Ac oddi wrth dy gnawd dy hun beidio âg ymguddio?
8 Yna y tyr allan, fel y wawr, dy oleuni,
A’th iachâd yn fuan a egina;
Ac o ’th flaen di yr aiff dy gyfiawnder,
A gogoniant Iehofah a gasgl yr olion.
9Yna y gelwi ac Iehofah a ettyb,
Y gweiddi ac Efe a ddywaid Wele Fi!
Os bwri o ’th fysg yr iau,
Yr estyn bŷs, a’r dywedyd oferedd,
10Os dygi allan dy fara i’r newynog,
Ac (os) yr enaid cystuddiedig a ddiwelli,
Yna mewn 2tywyllwch y 1cyfyd dy oleuni,
A ’th fagddu (a fydd) fel hanner dydd;
11A thywysa Iehofah di beunydd,
Ac Efe a ddiwalla 『2dy enaid』 『1yn y mawr sychder,』
A ’th esgyrn Efe a nertha,
A thi a fyddi fel gardd ddyfradwy, ac fel flynnon ddwfr
Yr hon ni phalla ei dyfroedd:
12Ac fe adeilada dy eppil yr anialoedd gynt;
Sylfeini cenhedlaeth a chenhedlaeth ti a’u hadferi;
A gelwir di Adeiladwr yr adwy,
Cyweiriwr llwybrau i gyfanneddu (ynddynt).
13O thröi oddi wrth y Sabboth dy droed
Rhag gwneuthur dy ewyllys ar ddydd Fy sancteiddrwydd,
A galw ’r Sabboth yn hyfrydwch,
(Dydd) sanctaidd Iehofah yn ogoneddus,
A’i anrhydeddu ef heb wneuthur dy ffordd dy hun,
Heb geisio dy ewyllys dy hun a dywedyd (dy) eiriau (dy hun);
14Yna yr ymhyfrydi yn Iehofah,
A Mi a wnaf it’ farchogaeth ar uchelfëydd y ddaear,
Ac a’th borthaf âg etifeddiaeth Iacob dy dad;
Canys genau Iehofah a’i llefarodd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.