Iöb 28 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXVIII.

1Dïau y mae hanawdle i’r arian,

A thrigfa i’r aur (yr hwn) a goetha (dyn);

2Haiarn allan o’r pridd a gymmerir,

A’r garreg a dodda (dyn) yn bres;

3 Diwedd a osododd efe i dywyllwch,

Ac hyd bob perffeithrwydd y mae efe yn chwilied

Y graig dywell ac angeuaidd-ddu;

4Fe gloddia efe fwn-dwll hyd bellder oddi wrth y trigiannydd,

Yn anghofiedig gan (eu) traed yr hongiant hwy,

Ym mhell oddi wrth ddynion y crwydrant:

5Y ddaear — o honi y daw bara,

A thani hi y dadymchwelir megis (gan) dân;

6Lle ’r saphir (yw) ei cherrig hi,

A mwn yr aur (a fydd) iddo;

7Llwybr, (sydd iddo) nas gŵyr yr eryr,

Ac nad ardremiodd llygad y barcud arno,

8 Na sathrodd meibion balchder ef,

Nad aeth y rhuedydd ar hyd-ddo;

9Ar y gallestr yr estyn (y mwnwr) ei law,

Efe a ddadymchwel y mynyddoedd o’r gwraidd;

10Yn y creigiau yr hollta efe hyntoedd,

A phob gwerthfawr beth ei lygad a wêl;

11(Ac) fel na ddyhidlont, y dyfrleoedd a rwym efe,

A’r cuddiedig beth a ddwg efe allan i’r goleuni.

12Ond Doethineb — pa le y ceir hyd Iddi?

A pha le hon — (sef) trigfa Deall?

13Nis gŵyr adyn ei gwerth Hi,

Ac ni cheir hyd Iddi yn nhir bywiolion;

14Y dyfnder a ddywaid “Nid ynof fi (y mae) Hi,”

A’r môr a ddywaid “Nid gyda myfi (y mae);”

15Nid oes roddi aur pur am dani Hi,

Nid oes bwyso arian (megis) ei phris Hi;

16Ni chloriannir am dani Hi âg aur coeth Ophir,

Â’r onyx gwerthfawr, ac â ’r saphir;

17Ni phrisir Hi âg aur a gwydr,

Ac (nid oes) newidwriaeth am dani â llestri o aur dilin;

18Cyrelau cochion a grisial, ni feddylir am danynt,

A meddiannu Doethineb (sydd) well na pherlau;

19Ni phrisir Hi â thopaz Ethiopia,

Ag aur coeth puredig ni chloriannir am dani Hi.

20Ond Doethineb — o ba le y daw Hi?

A pha le hon, — (sef) trigfa Deall?

21Ond cuddiwyd Hi oddi wrth lygaid pob (peth) byw,

Ac oddi wrth ehediaid y nefoedd y celwyd Hi;

22Difancoll ac annwn sy’n dywedyd,

“Â’n clustiau y clywsom sôn am dani.”

23Duw sydd yn deall ei ffordd Hi,

Ac Efe a ŵyr Ei thrigfa;

24Canys Efe — hyd eithafoedd y ddaear sy’n edrych,

Tan yr holl nefoedd y gwêl Efe;

25 Pan grëodd Efe bwys i’r gwŷnt,

Ac y cydfantolodd y dyfroedd wrth fesur;

26Pan wnaeth Efe ddeddf i’r gwlaw,

A ffordd i fellt y taranau,

27Yna Efe a’i gwelodd Hi, ac a’i mynegodd Hi,

Ac a’i deallodd Hi, ac a’i chwiliodd Hi,

28Ac a ddywedodd wrth ddyn,

“Wele, ofn Iehofah — hynny (sydd) Ddoethineb,

A chilio oddi wrth ddrwg (sydd) Ddeall.”

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help