1A dywedi yn y dydd hwnnw,
Molaf Di, Iehofah, canys er i Ti sorri wrthyf,
Dychwelodd Dy lid, a Thi a’m cysuraist.
2Wele, Duw (yw) fy iachawdwriaeth;
Ymddiriedaf, ac nid ofnaf;
Canys fy nerth a’m cân (yw) Iah Iehofah,
Efe yw fy iachawdwriaeth.
3A chwi a dynnwch ddwfr mewn llawenydd
O ffynhonnau iachawdwriaeth,
4A chwi a ddywedwch yn y dydd hwnnw,
Molwch Iehofah, gelwch ar Ei enw,
Hyspyswch ym mhlith y bobloedd Ei weithredoedd nerthol Ef,
Coffhêwch mai dyrchafedig yw Ei enw.
5Cenwch Iehofah canys godidowgrwydd a wnaeth Efe,
Hyspys yw hyn yn yr holl dir.
6Bloeddia, a chân yn llawen, breswylferch Tsïon,
Canys mawr o ’th fewn di (yw) Sanct Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.