1Cenwch i Iehofah ganiad newydd,
Cenwch i Iehofah, yr holl ddaear;
2Cenwch i Iehofah, bendithiwch Ei enw,
Efengylwch, o ddydd i ddydd, Ei iachawdwriaeth;
3Mynegwch ym mysg y cenhedloedd Ei ogoniant,
Ymhlith yr holl bobloedd Ei ryfeddodau;
4Canys mawr (yw) Iehofah a chlodforedig iawn,
Ofnadwy Efe goruwch yr holl dduwiau,
5Canys holl dduwiau y bobloedd (ŷnt) eilunod,
Eithr Iehofah, y nefoedd a wnaeth Efe;
6Ardderchowgrwydd a gorwychedd (sydd) o’i flaen Ef,
Gogoniant a phrydferthwch (sydd) yn Ei gyssegr!
7Rhoddwch i Iehofah, O dylwythau’r bobloedd,
Rhoddwch i Iehofah anrhydedd a gogoniant;
8Rhoddwch i Iehofah anrhydedd Ei enw,
Dygwch offrwm, a deuwch i’w gynteddoedd;
9Gwarogaethwch i Iehofah, mewn addurn sanctaidd,
Crynwch ger Ei fron Ef, yr holl ddaear;
10Dywedwch ym mysg y cenhedloedd, “Iehofah sy ’n teyrnasu,
A sicrhawyd y byd fel na syflo,
Barna Efe’r bobloedd, mewn uniondeb!”
11Llawenyched y nefoedd, a gorfoledded y ddaear,
Rhued y môr a’i gyflawnder;
12Llawen-floeddied y maes a’r oll (sydd) ynddo,
Yna llawen-ganed holl breniau’r coed,
13O flaen Iehofah,—Ei fod yn dyfod,
Ei fod yn dyfod i farnu’r ddaear,
Y barna Efe y byd, mewn cyfiawnder,
A’r bobloedd, yn Ei wirionedd!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.