S. Luc 12 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac ymysg y pethau hyn, wedi ymgasglu ynghyd o fyrddiynau o’r dyrfa fel y sathrent y naill y llall, dechreuodd ddywedyd wrth Ei ddisgyblion, Yn gyntaf, ymogelwch rhag surdoes y Pharisheaid, yr hwn yw rhagrith.

2Ond nid oes dim wedi ei orchuddio, na ddatguddir; nac yn guddiedig, na wneir yn hysbys.

3Gan hyny, pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, yn y goleuni y clywir hwynt; a’r hyn a lefarasoch yn y glust yn yr ystafelloedd, cyhoeddir ef ar bennau’r tai.

4A dywedaf wrthych chwi, Fy nghyfeillion, Nac ofnwch rhag y rhai sy’n lladd y corph, ac wedi hyny heb ganddynt ddim ychwaneg i’w wneuthur.

5Ond dangosaf i chwi pwy a ofnwch; ofnwch yr Hwn, ar ol y lladd, sydd a Chanddo awdurdod i fwrw i Gehenna; ïe, meddaf i chwi, Hwnw ofnwch,

6Onid yw pump aderyn y tô yn cael eu gwerthu er dwy ffyrling; ac nid oes un o honynt wedi ei anghofio ger bron Duw.

7Eithr hyd yn oed gwallt eich pennau sydd oll yn gyfrifedig. Nac ofnwch, ar lawer o adar y tô yr ydych yn rhagori.

8A dywedaf wrthych,

Pob un a’m haddefo I ger bron dynion,

Mab y Dyn hefyd a’i haddef ef ger bron angylion Duw:

9A’r hwn a’m gwado yngwydd dynion,

A wedir yngwydd angylion Duw.

10A phob un a ddywaid air yn erbyn Mab y Dyn, maddeuir iddo;

Ond i’r hwn a gablodd yn erbyn yr Yspryd Glân, ni faddeuir.

11A phan ddygont chwi o flaen y sunagogau a’r llywiawdwyr a’r awdurdodau, na phryderwch pa fodd nac â pha beth yr amddiffynoch eich hunain, na pha beth a ddywedoch,

12canys yr Yspryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno y pethau y mae rhaid eu dywedyd.

13A dywedodd rhyw un allan o’r dyrfa Wrtho, Athraw, dywaid wrth fy mrawd am rannu â mi yr etifeddiaeth.

14Ac Efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a’m gosododd I yn farnwr neu yn rhannwr arnoch?

15A dywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymgedwch rhag pob cybydd-dod; canys nid yn ei orlawnder y mae i neb ei fywyd, oddiwrth ei feddiannau.

16A dywedodd ddammeg wrthynt, gan ddywedyd, I ryw ddyn goludog y cnydiodd ei dir yn dda:

17ac ymresymmodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pa beth a wnaf, canys nid oes genyf le i gasglu fy ffrwythau ynghyd?

18A dywedodd, Hyn a wnaf; tynnaf i lawr fy ysguboriau i, ac rhai mwy a adeiladaf, a chasglaf ynghyd yno fy holl ŷd a’m da;

19a dywedaf wrth fy enaid, Enaid, y mae genyt lawer o dda wedi ei roi i gadw am flynyddoedd lawer; ymorphwys, bwytta, yf, ymhyfryda.

20Ond dywedodd Duw wrtho, O ynfyd, y nos hon, dy enaid a ofynant oddiwrthyt; a’r pethau a barottoaist, eiddo pwy fyddant?

21Felly y mae’r hwn sydd yn trysori iddo ei hun, ac heb fod yn oludog tuag at Dduw.

22A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Am hyn y dywedaf wrthych, na phryderwch am eich einioes, beth a fwyttaoch;

23nac am eich corph, beth a wisgoch; canys yr einioes, mwy yw na’r ymborth, a’r corph na’r dillad.

24Ystyriwch y brain, nad ŷnt yn hau nac yn medi, i’r rhai nid oes ystordy nac ysgubor, a Duw a’u portha. Pa faint mwy yr ydych chwi yn well na’r ehediaid?

25A phwy o honoch, gan bryderu, a ddichon ychwanegu at ei faintioli gufydd?

26Os, gan hyny, y peth lleiaf na ellwch ei wneud, paham am y lleill y pryderwch?

27Ystyriwch y lili, y modd y tyfant: ni lafuriant, ac ni nyddant ddim; a dywedaf wrthych, Nid oedd hyd yn oed Shalomon, yn ei holl ogoniant, wedi ymwisgo fel un o’r rhai hyn.

28Ac os y llysieuyn yn y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y foru i’r ffwrn y’i teflir, y mae Duw fel hyn yn ei ddilladu, pa faint mwy y dillada Efe chwi, O rai o ychydig ffydd?

29A chwychwi, na cheisiwch pa beth a fwyttaoch, a pha beth a yfoch; ac na fyddwch amheus;

30canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio; ac eich Tad chwi a ŵyr fod arnoch eisiau y pethau hyn:

31eithr ceisiwch Ei deyrnas Ef, a’r pethau hyn a roddir attoch.

32Nac ofna, braidd bychan, canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas.

33Gwerthwch eich meddiannau, a rhoddwch elusen. Gwnewch i’ch hunain byrsau na heneiddiant, trysor na dderfydd yn y nefoedd, y lle nad yw lleidr yn nesau atto, na phryf yn llygru;

34canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd.

35Bydded eich lwynau chwi wedi eu hamwregysu, a’ch llusernau yn llosgi,

36a chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior, fel wedi dyfod o hono a churo, y bo iddynt yn uniawn agor iddo.

37Gwyn eu byd y gweision hyny y rhai y bydd yr arglwydd ar ei ddyfodiad yn cael yn neffro; yn wir y dywedaf wrthych, Ymwregysa efe, a phar iddynt led-orwedd, a chan ddyfod y gwasanaetha arnynt.

38Ac os yn yr ail, ac os yn y drydedd wyliadwriaeth y delo, ac eu caffo felly, gwyn eu byd y gweision hyny.

39A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa awr yr oedd y lleidr ar ddyfod, effro fuasai, ac ni adawsai i’w dŷ gael ei gloddio trwodd.

40A chwithau, byddwch barod, canys yr awr na thybiwch y mae Mab y Dyn yn dyfod.

41A dywedodd Petr, Arglwydd, Ai wrthym ni y dywedi y ddammeg hon, neu wrth bawb hefyd?

42A dywedodd yr Arglwydd, Pwy, gan hyny, yw’r distain ffyddlawn, y pwyllog, yr hwn a esyd yr arglwydd ar ei deulu, i roddi eu cyfluniaeth yn ei bryd?

43Gwyn ei fyd y gwas hwnw, yr hwn, ar ei ddyfodiad, y bydd i’w arglwydd ei gael yn gwneuthur felly.

44Yn wir y dywedaf wrthych, Ar y cwbl y sydd eiddo y gesyd ef.

45Ond os dywaid y gwas hwnw yn ei galon, Oedi dyfod y mae fy arglwydd, a dechreu curo y gweision a’r morwynion, a bwytta ac yfed a meddwi,

46daw arglwydd y gwas hwnw mewn dydd na ddisgwyl efe, ac ar awr na ŵyr efe, ac ei dorri ef ar wahan a wna efe, a’i ran ef a esyd efe ynghyda’r anffyddloniaid.

47A’r gwas hwnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd ac ni pharottôdd na gwneuthur yn ol ei ewyllys ef, a gurir â llawer ffonnod;

48ond yr hwn na wybu, ond a wnaeth bethau yn haeddu ffonnodiau, a gurir ag ychydig ffonnodiau; a phob un i’r hwn y rhoddwyd llawer, llawer a geisir oddi wrtho; a chyda’r hwn y rhoddasant lawer, mwy a ofynant ganddo.

49Tân y daethum i’w fwrw ar y ddaear, a pha beth a fynnaf os eisoes y cynneuwyd ef?

50Ond bedydd sydd Genyf i’m bedyddio ag ef; ac mor gyfyng yw Arnaf hyd oni orphener!

51A dybygwch chwi mai heddwch y daethum i’w roddi ar y ddaear? Nage, meddaf i chwi, eithr ymranniad;

52canys bydd o hyn allan bump mewn un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri:

53rhennir hwynt tad yn erbyn mab, a mab yn erbyn tad; mam yn erbyn merch, a merch yn erbyn ei mam; chwegr yn erbyn gwaudd, a gwaudd yn erbyn ei chwegr.

54A dywedodd hefyd wrth y torfeydd, Pan weloch gwmmwl yn y gorllewin, yn uniawn y dywedwch, Cawod sy’n dyfod;

55ac felly y digwydd: a phan weloch y deheu-wynt yn chwythu, dywedwch, Gwres poeth fydd, a digwydd y mae.

56Rhagrithwyr, gwynebpryd y ddaear a’r nef y medrwch ei ddeall; ond yr amser hwn pa fodd na fedrwch ei ddeall?

57A phaham nad ydych, ïe, o honoch eich hunain, yn barnu yr hyn sydd gyfiawn?

58Canys tra yr eli gyda’th wrthwynebwr ger bron llywodraethwr, ar y ffordd ymdrecha i fyned yn rhydd oddi wrtho, rhag ysgatfydd iddo dy lusgo at y barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, a’r swyddog dy daflu yngharchar.

59Dywedaf wrthyt, Ni ddeui ddim allan oddiyno nes, ïe, i’r hatling eithaf ei thalu genyt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help