1Ac wedi dyfod o Hono i wared o’r mynydd, canlynodd torfeydd mawrion Ef.
2Ac wele, un gwahanglwyfus wedi dyfod Atto a’i haddolodd, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, gelli fy nghlanhau i.
3Ac wedi estyn Ei law, cyffyrddodd Efe ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf; glanhaer di: ac yn uniawn y glanhawyd ei wahanglwyf ef.
4A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwel nad wrth neb y dywedi; eithr dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma’r rhodd a orchymynodd Mosheh, yn dystiolaeth iddynt.
5Ac wedi dyfod o Hono i mewn i Caphernahwm, daeth Atto ganwriad, gan ddeisyfu arno a dywedyd,
6Arglwydd, fy ngwas sy’n gorwedd gartref yn glaf o’r parlys, yn ei boeni yn ofnadwy.
7A dywedodd Efe wrtho, Myfi a ddeuaf ac a’i hiachaf ef.
8A chan atteb, y canwriad a ddywedodd, Arglwydd, nid wyf deilwng fel dan fy nghronglwyd i y deuit i mewn; eithr yn unig dywaid â gair, ac iacheir fy ngwas;
9canys myfi hefyd, gŵr dan awdurdod wyf, a chenyf filwyr danaf fy hun; a dywedaf wrth hwn, Cerdda, a myned y mae; ac wrth arall, Tyred, a dyfod y mae; ac wrth fy nghaethwas, Gwna hyn, a gwneyd y mae.
10Ac wedi clywed hyn, yr Iesu a ryfeddodd ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, hyd yn oed yn Israel ffydd mor fawr ni chefais.
11A dywedaf wrthych, Llawer o’r dwyrain a’r gorllewin a ddeuant ac a led-orweddant gydag Abraham ac Itsaac ac Iacob yn nheyrnas nefoedd;
12ond plant y deyrnas a deflir ymaith i’r tywyllwch mwyaf allanol: yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd.
13A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, Dos ymaith: fel y credaist, bydded i ti. Ac iachawyd ei was yn yr awr honno.
14Ac wedi dyfod o’r Iesu i dŷ Petr, gwelodd ei chwegr ef yn gorwedd ac yn glaf o’r cryd;
15a chyffyrddodd â’i llaw hi, ac ymadawodd y cryd â hi, a chododd hi a gwasanaethodd Iddo.
16Ac wedi ei hwyrhau hi, dygasant Atto rai cythreulig lawer; a bwriodd Efe allan yr ysprydion â gair; a’r holl rai drwg eu hwyl a iachaodd Efe,
17fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eshaiah y prophwyd, gan ddywedyd,
“Efe Ei Hun ein gwendidau a gymmerth,
Ac ein clefydau a ddug Efe.”
18A phan welodd yr Iesu dorfeydd mawrion o’i amgylch, gorchymynodd fyned ymaith i’r lan arall.
19A rhyw ysgrifenydd wedi dyfod Atto, a ddywedodd Wrtho, Athraw, canlynaf Di i ba le bynnag yr elych.
20A dywedodd yr Iesu wrtho, Gan y llwynogod y mae ffauau, a chan ehediaid y nefoedd lettyau; ond gan Fab y Dyn nid oes lle y rhoddo Ei ben i lawr.
21Ac un arall o’i ddisgyblion a ddywedodd Wrtho, Arglwydd, gâd i mi yn gyntaf fyned ymaith a chladdu fy nhad.
22A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn Fi, gâd y meirw i gladdu eu meirw eu hun.
23Ac wedi myned o Hono i gwch, canlynodd Ei ddisgyblion Ef:
24ac wele, cynnwrf mawr a ddigwyddodd yn y môr, nes yr oedd y cwch yn cael ei orchuddio gan y tonnau; ac Efe a gysgai.
25Ac wedi dyfod Atto, deffroasant Ef, gan ddywedyd, Arglwydd, achub; darfu am danom:
26a dywedodd Efe wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, o chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd Efe, ac y dwrdiodd y gwyntoedd a’r môr, ac y bu tawelwch mawr.
27A’r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa fath ddyn yw hwn, gan fod y gwyntoedd a’r môr yn ufuddhau iddo?
28Ac wedi Ei ddyfod i’r lan arall, i wlad y Gergesiaid, cyfarfu ag Ef ddau ddieflig, yn dyfod allan o’r beddau, ffyrnig dros ben fel na allai neb fyned heibio y ffordd honno.
29Ac wele, gwaeddasant, gan ddywedyd, Pa beth sydd i ni a wnelom â Thi, o Fab Duw? Daethost yma cyn yr amser i’n poeni ni.
30Ac yr oedd ym mhell oddiwrthynt genfaint o foch lawer, yn pori.
31A’r cythreuliaid a ddeisyfiasant Arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, danfon ni i’r genfaint moch. A dywedodd wrthynt, Ewch.
32A hwy wedi myned allan, a aethant ymaith i’r moch; ac, wele, rhuthrodd yr holl genfaint, i lawr y dibyn, i’r môr; a buant feirw yn y dwfr.
33A’r meichiaid a ffoisant, ac wedi myned ymaith i’r ddinas, mynegasant y cwbl, a hanes y rhai dieflig.
34Ac, wele, yr holl ddinas a aeth allan i gyfarfod â’r Iesu; a phan Ei gwelsant, deisyfiasant Arno ymadael â’u cyffiniau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.