1Molwch Iah!
Cenwch i Iehofah ganiad newydd,
(A)’i foliant Ef ynghynnulleidfa ’r saint!
2Llawenhaed Israel yn ei Wneuthurwr,
Meibion Tsïon a orfoleddont yn eu Brenhin!
3Molent hwy Ei enw â’r dawns,
Ar dympan a thelyn canant Iddo,
4Canys ymhoffodd Iehofah yn Ei bobl,
Prydferthodd y trueiniaid âg iachawdwriaeth!
5Gorfoledded y saint, mewn gogoniant,
Llawen-ganent hwy ar eu gwelyau,
6(Gyda) mawr foliant Duw yn eu gwddf,
A chleddyf daufiniog yn eu dwylaw
7I wneuthur dïal ar y cenhedloedd,
(A) chosp ar y bobloedd;
8I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau,
A’u pendefigion â gefynnau heiyrn;
9I wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig!
Ardderchowgrwydd (yw) hyn i’w holl saint Ef!
Molwch Iah!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.