1Cân. Psalm. I feibion Corah. I ’r blaengeiniad. Ar y delyn.
I’w chanu. Awdl addysgiadol. I Heman yr Ezrahiad.
2O Iehofah Dduw fy iachawdwriaeth,
Lliw dydd y gwaeddaf, (ac) yn y nos o’th flaen Di!
3Dyfod ger Dy fron a fo i’m gweddi,
Gogwydda Dy glust at fy llefain,
4Canys gorlawn o ddrygau yw fy enaid,
A’m heinioes at annwn a gyrhaeddodd;
5Cyfrifwyd fi gyda’r rhai sy’n disgyn i’r pwll,
Aethum yn debyg i wr heb nerth;
6Ynghyda’r meirw (y mae) fy ngwely,
Fel y lladdedig sy’n gorwedd yn y bedd,
Y rhai ni chofi mwy,
A hwy, oddi wrth Dy law Di y torrwyd hwynt;
7Gosodaist fi yn y pwll isaf,
Yn y tywyllwch, yn y dyfnderau;
8Arnaf y pwysa Dy angerdd,
Ac â’th holl donnau y’m gorthrymmi: Selah.
9Pellhêaist fy nghydnabod oddi wrthyf,
Gwnaethost fi yn ffieidd-dra iddynt,
Yn warchaeëdig ac ni allaf fyned allan;
10Fy llygad a nychodd gan gystudd,
Gelwais Arnat, O Iehofah, bob dydd,
Lledais Attat fy nwylaw (gan ddywedyd)
11“Ai i’r meirw y gwnei ryfeddod,
Ai’r gwyllion a gyfodant (ac) a’th foliannant? Selah.
12A draethir yn y bedd Dy drugaredd,
A’th ffyddlondeb yn nifancoll?
13A adnabyddir yn y tywyllwch Dy ryfeddod,
A’th gyfiawnder yn nhir angof?”
14 Eithr myfi,—Attat, O Iehofah, y llefaf,
Ac yn y bore fy ngweddi sy’n dyfod o’th flaen!
15Pa ham, O Iehofah, y gwrthodi fy enaid,
Y cuddi Dy wyneb oddi wrthyf?
16Truan myfi, ac ar drangcedigaeth o’m hieuengctid,—
Dygais Dy ddychryniadau, diflannu yr wyf;
17Trosof yr aeth Dy soriant,
Dy ddychrynedigaethau a’m llwyr-ddifasant,
18Cylchynant fi, fel dyfroedd, bob dydd,
Ant o’m hamgylch ynghŷd;
19Pellhêaist oddi wrthyf gâr a chyfaill,
cydmerwch Iöb 17:14. A’m cydnabod (ŷnt)—y tywyllwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.