1Canaf yr awr hon i’m hanwylyd
Ganiad fy anwylyd am ei winllan.
Gwinllanoedd i’m hanwylyd
Ar fynydd tra ffrwythlawn;
2Ac efe a’i cloddiodd hi ac a’i digarregodd,
Ac a’i plannodd o winwŷdden Sorek,
Ac a adeiladodd dŵr yn ei chanol,
A gwinwrŷf a drychodd efe ynddi,
Ac efe a ddisgwyliodd (iddi) ddwyn grawnwin,
Ond hi a ddug rawn gwylltion.
3Ac yr awr hon preswylwŷr Ierwshalem a gwŷr Iwdah,
Bernwch, attolwg, rhyngof fi a’m gwinllan.
4Beth (oedd) i’w wneuthur ychwaneg i’m gwinllan
Nag a wneuthum iddi?
Pa ham, pan ddisgwyliais (iddi) ddwyn grawnwin,
Y dug hi rawn gwylltion?
5Ond yn awr mi a hyspysaf ynte i chwi
Yr hyn yr wyf fi am wneuthur i’m gwinllan,
(Sef) tynnu ymaith ei chae fel y byddo i’w phori,
Torri ei magwyr fel y byddo yn sarthrfa.
6A gosodaf hi yn ddifrod,
Nid ysgythrir hi, ac ni chloddir hi,
Ond fe gyfyd mieri a drain:
Ac i’r cymmylau y gorchymynaf
Na wlawiont arni wlaw.
7Dïau, gwinllan Iehofah y lluoedd (yw) tŷ Israel,
A gwŷr Iwdah (yw) planhigyn Ei hyfrydwch Ef;
Ac Efe a ddisgwyliodd am farn, ac wele drais,
Am gyfiawnder, ac wele gri.
8Gwae y rhai (sy) ’n cysylltu tŷ at dŷ;
Maes wrth faes a gydiant hwy
Hyd nad oes lle, ac y trigoch
Ar eich pen eich hun ynghanol y tir.
9(Mae hyn) yn Fy nglustiau (medd) Iehofah y lluoedd;
Yn ddïau, tai lawer yn anghyfannedd fydd,
Y mawrion a’r teg heb drigiannydd;
10Ië, deg cyfair o winllan a ddygant 2un 1bath,
A 2homer o 1hâd a ddwg ephah.
11Gwae y rhai gan gyfodi yn fore a ddilynant ddiod gadarn,
A hwy yn arhos hyd yr hwyr, y gwin a’ u hennyna;
12A’r delyn, a’r nabl, y dympan, a’r bibell,
A gwin yw eu gwleddoedd hwynt,
Ond ar waith Iehofah nid edrychant,
A gweithred Ei ddwylaw Ef nid ystyriant.
13Am hynny y caeth-gludwyd Fy mhobl am nad oes wybodaeth,
A’u gwŷr anrhydeddus (sydd) feirw o newyn,
A’u gwerin a wywodd gan syched.
14Am hynny yr ehangodd Uffern ei chwant,
Ac yr agorodd ei safn heb fesur,
Ac (yno) y disgyn eu pendefigion, a’u gwerin,
Eu rhai trystfawr, a’r hwn a lawenycha ynddi.
15A gostyngir y gwreng, ac iselir y bonheddig,
A llygaid y rhai uchel a iselir.
16A dyrchefir Iehofah y lluoedd mewn barn,
A’r Duw Sanctaidd a sancteiddir mewn cyfiawnder.
17Ac fe bawr yr ŵyn yn ol eu harfer,
A diffaethfaoedd y breision, y mynnod a’u bwyttânt.
18Gwae ’r rhai a estynant anwiredd megis rheffynnau hirion,
Ac megis rhaffau men, (eu) pechod:
19Y rhai a ddywedant, Brysied, prysured Ei orchwyl fel y gwelom,
A nesâed a deued cynghor Sanct yr Israel fel y gwypom.
20Gwae y rhai a ddywedant am y drwg “Da,” ac am y da, “Drwg,”
Gan osod tywyllwch am oleuni, a goleuni am dywyllwch,
Gan osod chwerw am felus, a melus am chwerw.
21Gwae ’r rhai sydd ddoethion yn eu llygaid eu hun,
Ac yn eu golwg eu hun yn ddeallgar.
22Gwae ’r rhai cryfion i yfed gwin,
A’r dynion o nerth i gymmysgu diod gadarn,
23Y rhai sy ’n cyfiawnhâu ’r anwir er gwobr,
A chyfiawnder y cyfiawn a gymmerant oddi arnynt.
24Am hynny megis ag yr ysa 2tafod 3tân y 1sofl,
Ac y 3difa 2fflam y 1mân-us,
Eu gwreiddyn hwynt fel nychdod a fydd,
A’u blodeuyn fel llwch a gyfyd i fynu,
O herwydd diystyrasant gyfraith Iehofah y lluoedd,
A gair Sanct yr Israel a ddirmygasant.
25Am hynny yr ennynodd llid Iehofah yn erbyn Ei bobl.
Ac yr estynodd Efe Ei law arnynt,
Ac y tarawodd hwynt; a chrynodd y mynyddoedd;
A bu eu celanedd hwynt fel tom ynghanol yr heolydd.
Er hyn oll ni ddychwelodd Ei lid Ef,
Ond etto (y mae) Ei law Ef yn estynedig.
26Ac efe a gyfyd lumman i’r cenhedloedd o bell,
Ac a chwibana arnynt hwy o eithaf y ddaear,
Ac wele, ar frys yn fuan y deuant;
27Ni (bydd un) blin na thramgwyddedig yn eu plith,
Ni huna’r un ac ni chwsg,
Ac ni ddattodir gwregys ei lwynau,
Ac ni ddryllir carrai ei esgidiau;
28Yr hwn (sydd) â’i saethau yn llymion,
A’i holl fwäau yn annelog,
Carnau ei feirch ef fel callestr a gyfrifir,
A’i olwynion fel corwŷnt;
29Ei ruad (fydd) fel llew,
Efe a rua fel cenawon llew,
Ac efe a chwŷrna, ac a ymeifl yn yr ysglyfaeth,
Ac efe a ddiangc, ac ni (bydd) achubydd.
30Ac efe a rua arno y dydd hwnnw, fel rhuad y môr;
A hwy a edrychant ar y nefoedd uchod ac ar y ddaear isod,
Ac wele! dywyllwch, cyfyngder!
A’r goleuni a dywyllwyd gan gymmylau duon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.