1Awdl addysgiadol; i Asaph.
Pa ham, O Dduw, y bwriast ymaith am byth,
Y myga Dy ddigofaint yn erbyn defaid Dy borfa?
2Cofia Dy gynnulleidfa a feddiennaist gynt,
A ryddhêaist (i fod) yn llwyth Dy etifeddiaeth,
Y mynydd Tsïon hwn y preswyli ynddo!
3Dyrcha Dy gamrau at yr adfeiliau llwyr,
(At) yr oll a ddrygodd y gelyn yn y cyssegr!
4 ef fel un yn codi i fynu—
Yn ymbleth y coed—fwyill;
6Ac yn awr, ei cherfiadau hi i gyd,
A neddyf ac â morthwylion y tarawant hwy;
7Rhoddasant ar dân Dy gyssegr,
Hyd lawr yr halogasant breswylfa Dy enw;
8Dywedasant yn eu calon, “Gorthrymwn hwynt yng nghŷd,”
Llosgasant holl gynnullfannau Duw yn y tir:
9Ein harwyddion ni welwn,
Nid oes mwy brophwyd,
Ac nid (oes) gyda ni a ŵyr “Pa hŷd.”
10Pa hŷd, O Dduw, y gwarthrudda’r gorthrymmydd?
—A sarhâ’r gelyn Dy enw Di am byth?
11Pa ham y tynni yn ei hol Dy law, a’th ddeheulaw?
—Allan o’th fynwes (â hi)! difetha!
12 dreigiau yn y dyfroedd,
14Tydi a ddrylliaist bennau ’r addanc,
Rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl, i drigolion y crasdiroedd;
15Tydi a holltaist y ffynnon a’r nant,
Tydi a ddyhyspyddaist afonydd dibaid:
16Eiddo Tydi (yw) ’r dydd, ac eiddo Tydi y nos,
Tydi a sefydlaist y goleuni a’r haul;
17Tydi a osodaist holl derfynau ’r ddaear,
Yr hâf a’r geuaf, Tydi a’u lluniaist.
18Cofia hyn! y gelyn a warthrudda Iehofah,
A phobl ynfyd a sarhâ Dy enw:
19Na ddyro i’r bwystfil enaid Dy durtwr,
Enaid Dy drueiniaid nac anghofia am byth!
20Edrych ar y cyfammod,
Canys llawn yw tywyll-leoedd y ddaear o drigfannau trais!
21Na ddychweled y drylliedig yn waradwyddus;
Y truan a’r anghenus a foliannont Dy enw!
22Cyfod, O Dduw, dadleu Dy ddadl,
Cofia Dy warthrudd gan yr ynfyd beunydd!
23Nac anghofia lais Dy orthrymwyr,
Dadwrdd Dy wrthsafwyr ag sy’n esgyn beunydd!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.