1Ac attolygwn i chwi, frodyr, o ran dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a’n cyd-gynnulliad ninnau atto Ef,
2na’ch sigler yn fuan oddiwrth eich meddwl, na’ch cythryflu na chan yspryd, na chan air, na chan epistol megis oddi wrthym, mai agos yw dydd yr Arglwydd.
3Na fydded i neb eich twyllo chwi mewn un modd; canys heb ddyfod o’r ymadawiad yn gyntaf ni ddaw, nac heb ei ddatguddio o ddyn pechod,
4mab y golledigaeth, yr hwn sy’n gwrthwynebu, ac yn ymddyrchafu yn erbyn yr oll a elwir yn Dduw,
5neu a addolir, fel mai yn nheml Dduw y mae efe yn eistedd, gan ddangos ei hun ei fod yn dduw. Oni chofiwch, tra’r oeddwn etto gyda chwi, y pethau hyn a ddywedais wrthych?
6Ac yn awr, yr hyn sy’n attal a wyddoch, fel y datguddier ef yn ei bryd ei hun.
7Canys y dirgelwch sydd eisoes yn gweithio, sef dirgelwch anghyfraith; yn unig yr hwn sy’n attal yn awr nes myned ymaith o hono —:
8ac yna y datguddir yr anghyfraith-ddyn, yr hwn, yr Arglwydd Iesu a’i difetha ag anadl Ei enau, ac a’i diddymma ag amlygiad Ei ddyfodiad:
9ac y mae ei ddyfodiad ef yn ol gweithrediad Satan, gyda phob gallu ac arwyddion a rhyfeddodau celwyddog,
10a chyda phob twyll anghyfiawnder i’r rhai sy’n myned ar goll, gan na fu i gariad y gwirionedd ei dderbyn ganddynt fel yr achuber hwynt.
11Ac o herwydd hyn danfon iddynt y mae Duw weithrediad cam-arwain fel y credont y celwyddog;
12fel y barner pawb na chredasant y gwirionedd, eithr a foddlonwyd mewn anghyfiawnder.
13Ond nyni a ddylem ddiolch i Dduw yn wastadol trosoch, frodyr caredig gan yr Arglwydd, o herwydd eich dewis gan Dduw o’r dechreuad i iachawdwriaeth yn sancteiddiad yr Yspryd, a ffydd i’r gwirionedd;
14i’r hyn y galwodd chwi trwy ein Hefengyl, er meddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist.
15Gan hyny, ynte, frodyr, sefwch, a deliwch y traddodiadau a ddysgasoch, pa un bynnag ai trwy ymadrodd ai trwy ein hepistol.
16A’n Harglwydd Iesu Grist Ei hun, a Duw ein Tad, yr Hwn a’n carodd ac a roddes i ni ddiddanwch tragywyddol a gobaith da trwy ras,
17a ddiddano eich calonnau, ac a’u sicrhao ym mhob gwaith a gair da.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.