Psalmau 38 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXXVIII.

1Psalm o eiddo Dafydd. I beri coffâd.

2O Iehofah, nid yn Dy lid bydded it’ fy nghospi,

Nac yn Dy lidiowgrwydd fy ngheryddu!

3Canys Dy saethau a ddisgynasant ynof,

A disgyn arnaf a wnaeth Dy law;

4Nid dim cyfan (sydd) yn fy nghnawd o herwydd Dy ddigllonedd,

Nid dim heddwch (sydd) yn fy esgyrn o herwydd fy mhechod;

5Ië, fy nghospedigaethau sydd dros fy mhen,

Megis baich trwm, rhy drwm y maent i mi;

6Drewi a rhedeg y mae fy nghleisiau,

O herwydd fy ynfydrwydd;

7Crymmwyd fi, a darostyngwyd fi yn ddirfawr,

Beunydd mewn galar-wisg yr ymrodiaf,

8Canys fy lwynau a lanwyd o danchwydd,

Ac nid dim cyfan (sydd) yn fy nghnawd;

9Merwinais, a drylliwyd fi yn ddirfawr,

Bloeddio yr wyf o herwydd rhuad fy nghalon.

10O Arglwydd, o’th flaen Di (y mae) fy holl ddymuniad,

A’m huchenaid, oddi wrthyt Ti ni chuddiwyd;

11Fy nghalon a ddychlamma, gadawodd fy nerth fi,

A llewyrch fy llygaid, — hefyd hyn nid yw gennyf;

12Fy ngharedigion a’m cyfeillion, oddi ar gyfer fy mhla y safant,

A’m cyfneseifiaid, o hirbell y maent yn sefyll;

13A gosod maglau y mae y rhai sy’n chwilio am fy eimoes,

A’r rhai sy’n ceisio fy niweid a draethant ddistryw,

A dichellion beunydd a fyfyriant hwy:

14A myfi, — fel byddar, ni chlywaf,

Ac fel mudan nad egyr ei enau;

15Ac aethum fel gwr, yr hwn nid yw ’n clywed,

Ac nad (oes) yn ei enau resymmau;

16O herwydd ynot Ti yr wyf yn gobeithio,

(A) Thydi a’m gwrandewi, O fy Arglwydd a’m Duw,

17Canys dywedais, “Na lawenychant hwy o’m hachos,

Wrth siglo o’m troed, yn fy erbyn nac ymfawrygant hwy;”

18Canys myfi, — i gwympo yr wyf yn barod,

A’m dolur (sydd) ger fy mron beunydd;

19Canys fy nrygioni yr wyf yn ei addef,

A gofidiaf o herwydd fy mhechodau:

20Ond fy ngelynion heb achos ŷnt gedyrn,

Ac aml yw fy nghaseion heb sail,

21A’r rhai a dalant ddrwg dros dda

Ynt elynawl i mi am ddilyn o honof (eu) da.

22Na ad fi, O Iehofah,

Fy Nuw, nac ymbellhâ oddi wrthyf!

23Brysia i’m cymmorth,

O fy Arglwydd, fy Iachawdwriaeth!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help