Philippiaid 1 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Paul a Thimothëus, gweision i Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y sydd yn Philippi, ynghyda’r esgobion a’r diaconiaid:

2gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist,

3Diolch yr wyf i’m Duw ymhob coffa am danoch,

4beunydd ymhob deisyfiad o’r eiddof drosoch chwi oll yn gwneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd,

5oblegid eich cymdeithas o ran yr Efengyl, o’r dydd cyntaf hyd yn awr;

6yn hyderus am y peth hwn ei hun, y bydd i’r Hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orphen hyd ddydd Iesu Grist;

7fel y mae yn gyfiawn i mi synied hyn yma am danoch oll, gan fy mod a chenych yn fy nghalon, a chwi oll yn fy rhwymau ac yn fy ymddiffyn a chadarnhad yr Efengyl, yn gyfrannogion â mi o ras.

8Canys fy nhyst yw Duw, y modd yr hiraethaf am danoch oll, yn ymysgaroedd Iesu Grist.

9A hyn yr wyf yn ei weddïo, y bo i’ch cariad ymhelaethu etto fwy-fwy mewn gwybodaeth a phob synwyr,

10fel y cymmeradwyoch y pethau rhagorol, fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist,

11wedi eich llenwi â ffrwyth cyfiawnder, yr hwn sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw.

12Ac ewyllysiwn wybod o honoch, frodyr, am y pethau yn fy nghylch, mai yn hytrach i gynnydd yr Efengyl y daethant,

13fel y bu i’m rhwymau fyned yn amlwg yng Nghrist yn yr holl Pretorium ac i’r lleill i gyd;

14ac i’r rhan fwyaf o’r brodyr yn yr Arglwydd, gan fod yn hyderus trwy fy rhwymau, feiddio yn fwy dros ben i lefaru Gair Duw yn ddiofn.

15Rhai yn wir o genfigen a chynnen sy’n pregethu Crist, ond rhai hefyd o ewyllys da;

16y naill o gariad, gan wybod mai er amddiffyn yr Efengyl y’m gosodwyd;

17a’r lleill o ymbleidio y cyhoeddant Grist, nid yn bur, gan feddwl cyfodi gorthrymder i’m rhwymau.

18Pa beth, ynte, ond mai ymhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith neu mewn gwirionedd, Crist a gyhoeddir?

19Ac yn hyn yr wyf yn llawenychu, ïe, ac y llawenychaf; canys gwn y bydd hyn yn troi allan i mi yn iachawdwriaeth trwy eich gweddi chwi,

20ac arlwyad Yspryd Iesu Grist, yn ol fy nisgwyliad a’m gobaith nad mewn dim y’m cywilyddir; eithr ymhob hyder, fel bob amser, yn awr hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorph, pa un bynnag ai trwy fywyd ai trwy farwolaeth.

21Canys i mi, byw yw Crist, a marw sydd elw.

22Ond os byw yn y cnawd, os hyn yw i mi ffrwyth fy ngwaith,

23pa beth a ddewisaf, nis gwn; a chyfyng yw arnaf rhwng y ddau, gan fod a chwant genyf i ymadael ac i fod gyda Christ,

24canys llawer ychwaneg gwell yw; ond aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi.

25A chenyf yr hyder hwn, gwn yr arhosaf, ac yr arhosaf ynghyda’r oll o honoch er eich cynnydd chwi a’ch llawenydd yn y ffydd,

26fel y bo i’ch ymffrost helaethu yng Nghrist Iesu, ynof fi, trwy fy mhresennoldeb trachefn gyda chwi.

27Yn unig yn deilwng o Efengyl Crist bydded eich ymddygiad, fel pa un bynnag ai dyfod a’ch gweled a wnaf, ai yn absennol y clywaf eich helynt, eich bod yn sefyll yn un yspryd, ag un enaid yn cyd-ymdrech tros ffydd yr Efengyl,

28ac heb eich dychrynu mewn dim gan y gwrthwynebwyr, yr hyn sydd iddynt hwy yn arwydd eglur o golledigaeth, ond o’ch iachawdwriaeth chwi; a hyny oddiwrth Dduw,

29canys i chwi y rhoddwyd tros Grist, nid yn unig gredu Ynddo, eithr hefyd ddioddef Trosto;

30a chyda’r un ymdrech genych ag a welsoch ynof, ac yn awr a glywch ei fod ynof.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help