1 Y rhai hyn a ddyrchafant eu llef, hwy a lawen-ganant,
Godidowgrwydd Iehofah a ddadseinia ’r dyfroedd.
15Am hynny yn yr arfordiroedd gogoneddwch Iehofah,
Yn arfordiroedd y môr enw Iehofah Duw Israel.
16O asgell y ddaear caniadau a glywsom (sef) Gogoniant i’r cyfiawn.
Ond mi a ddywedais, Culni i mi! Culni i mi!
Gwae fi! canys yr anrheithwŷr sy’n anrheithio,
Gydag anrheithiad y mae ’r anrheithwŷr yn anrheithio.
17 Dychryn, a phwll, a magl
(Sydd) arnat ti, breswylydd y ddaear;
18A bydd, y neb a ffô rhag trwst y dychryn
A syrth i’r pwll;
A’r hwn a gyfodo o ganol y pwll
A ddèlir yn y fagl;
O herwydd ffenestri o’r uchelder a agorwyd,
A chrynu y mae seiliau ’r ddaear.
19Gan derfysgu ymderfysgodd y ddaear,
Gan rwygo ’r ymrwygodd y ddaear,
Gan symmud yr ymsymmudodd y ddaear.
20Gan honcian yr honcia ’r ddaear fel meddwyn,
Ac yr ymsymmud fel lletty;
A thrymhâwyd arni ei chamwedd,
A hi a syrth ac ni chwanega gyfodi.
21A bydd yn y dydd hwnnw,
Yr ymwêl Iehofah â ’r llu uchel yn yr uchelder,
Ac â brenhinoedd y ddaear ar y ddaear,
22A chesglir hwynt â chasgliad carcharorion i’r daeardy,
A hwy a garcherir mewn carchar.
Ac ym mhen dyddiau lawer yr ymwelir â hwynt.
23Ac fe wrida ’r lloer, a chywilyddir yr huan,
Canys fe deyrnasa Iehofah y lluoedd
Ym mynydd Tsïon, ac yn Ierwshalem,
Ac o flaen Ei henuriaid Ef yn ogoneddus.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.