1Psalm o eiddo Dafydd.
O Iehofah, pwy a drig yn Dy babell Di?
Pwy a breswylia ym mynydd Dy sancteiddrwydd?
2—Y neb a rodio ’n berffaith ac a wnelo gyfiawnder.
Ac a lefaro ’r gwir sydd yn ei galon;
3Y neb a fo heb enllib ar ei dafod,
A’r na wnelo i’w gymhar ddrygioni,
Ac na chyfodo waradwydd yn erbyn ei gymmydog;
4Y neb y bo ’r dirmygus beth yn ei olwg yn ffiaidd,
Ond a anrhydeddo ’r sawl a ofnont Iehofah,
(Ac, er) tyngu o hono i’(w) niweid, na newidio;
5Y neb na roddo ei arian ar ocraeth,
Ac na chymmero wobr yn erbyn y diniweid:
A wnelo hyn ni siglir yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.