Psalmau 97 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XCVII.

1Iehofah sy’n teyrnasu, gorfoledda’r ddaear,

Llawenycha gwledydd lawer!

2Cymmylau a’u tywyllwch (sydd) o’i amgylch Ef,

Cyfiawnder a barn (ŷnt) sail Ei orseddfaingc;

3Tân o’i flaen Ef sy’n myned,

Ac yn llosgi Ei elynion o amgylch!

4 Llewyrchodd Ei fellt Ef y byd:

Gwelodd a chrynodd y ddaear;

5Y mynyddoedd, fel cŵyr, a doddasant o flaen Iehofah,

O flaen Arglwydd yr holl ddaear;

6Mynegodd y nefoedd Ei gyfiawnder,

A gwelodd yr holl bobloedd Ei ogoniant!

7Gwaradwyddir holl wasanaethwyr delw gerfiedig,

—Yr ymffrostwyr mewn eilunod,—

Gwarogaethu iddo Ef a wna yr holl dduwiau!

8Fe glyw ac fe lawenycha Tsïon,

Fe orfoledda merched Iwdah,

O herwydd Dy farnedigaethau, O Iehofah!

9Canys Tydi, O Iehofah, (wyt) oruchel goruwch yr holl ddaear,

Dirfawr y’th ddyrchafwyd goruwch yr holl dduwiau!

10O hoffwyr Iehofah,—casêwch ddrygioni,—

Yr Hwn sy’n cadw eneidiau Ei saint,

O law yr annuwiolion yr achub Efe hwynt!

11Goleuni a hauwyd i’r cyfiawn,

Ac i’r rhai uniawn o galon lawenydd!

12Llawenhewch, O gyfiawn rai, yn Iehofah,

A moliennwch Ei goffadwriaeth sanctaidd!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help