1Awdl addysgiadol o eiddo Dafydd, pan yr oedd efe yn yr ogof. Gweddi.
2(A)’m llef ar Iehofah y gwaeddaf
(A)’m llef âg Iehofah yr ymbiliaf,
3Tywalltaf o’i flaen Ef fy nghwyn,
Fy nghyfyngder o’i flaen Ef a fynegaf!
4Tra yn pallu ynof y mae fy yspryd,
A Thydi wyt yn adnabod fy llwybr,
Yn y ffordd y rhodiwn y cuddiasant fagl i mi!
5Edrych ar (fy) llaw ddehau, a gwel!
Ac nid (oes) i mi gydnabod,
Collwyd nodded oddi wrthyf,
Nid (oes) a ymofynno am fy enaid!
6Llefais Arnat Ti, O Iehofah,
Dywedais, “Tydi (yw) fy noddfa,
Fy nghyfran yn nhir y rhai byw!”
7Ystyr wrth fy ngwaedd, canys truan iawn ydwyf,
Gwared fi oddi wrth fy erlidwyr, canys rhy gryfion ynt i mi!
8Dwg fy enaid allan o garchar, fel y moliannwyf Dy enw,
O’m hamgylch deued y cyfiawn rai o herwydd cymmwynasu o Honot wrthyf!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.