1Ai dechreu trachefn ganmol ein hunain yr ydym? A oes arnom, fel ar rai, raid wrth epistolau canmoliaeth attoch, neu oddiwrthych?
2Ein hepistol ydych chwi, yn ysgrifenedig yn ein calonnau, yn cael ei adnabod a’i ddarllen gan bob dyn;
3yn cael eich amlygu eich bod epistol Crist, wedi ei weini genym, wedi ei ysgrifenu nid ag ingc, eithr ag Yspryd y Duw byw, nid mewn llechau cerrig, eithr yn llechau cnawdol y galon.
4A hyder o’r fath hon sydd genym trwy Grist tuag at Dduw;
5nid ein bod, o honom ein hunain, yn ddigonol i feddwl dim megis o honom ein hunain, eithr ein digonedd oddiwrth Dduw y mae;
6yr Hwn hefyd a’n gwnaeth ni yn weinidogion digonol cyfammod newydd, nid o’r llythyren eithr o’r yspryd; canys y llythyren a ladd, ond yr yspryd a fywha.
7Ond os gweinidogaeth angau, wedi ei hysgrifenu a’i hargraphu ar gerrig, fu mewn gogoniant, fel na allai meibion Israel edrych yn graff ar wyneb Mosheh o achos gogoniant ei wyneb, yr hwn ogoniant oedd yn cael ei ddiddymmu,
8pa fodd yn hytrach na fydd gweinidogaeth yr Yspryd mewn gogoniant?
9canys os yw gweinidogaeth condemniad yn ogoniant, llawer mwy y rhagora gweinidogaeth cyfiawnder mewn gogoniant;
10canys ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd, yn y rhan hon, o herwydd y gogoniant tra-rhagorol:
11canys os oedd yr hyn a ddiddymir, mewn gogoniant, llawer mwy y mae’r hyn sy’n aros mewn gogoniant.
12Gan hyny, a’r cyfryw obaith genym, hyfder mawr, a arferwn;
13ac nid fel yr oedd Mosheh yn gosod gorchudd ar ei wyneb fel na chraffai meibion Israel ar ddiwedd yr hyn oedd yn cael ei ddiddymmu;
14eithr caledwyd eu meddyliau; canys hyd y dydd heddyw, wrth ddarllen yr hen gyfammod, yr un gorchudd sy’n aros heb ei godi, yr hwn, yng Nghrist y diddymmir ef.
15Eithr hyd heddyw, pan ddarllener Mosheh, gorchudd sy’n gorwedd ar eu calon hwynt;
16ond pan dry hi at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd.
17A’r Arglwydd, yr Yspryd yw; a lle y mae Yspryd yr Arglwydd, y mae rhyddid.
18Ond nyni oll, â gwyneb heb orchudd arno, yn gwrthdaflu, fel drych, ogoniant yr Arglwydd, i’r un ddelw y’n traws-ffurfir, o ogoniant i ogoniant, fel oddiwrth yr Arglwydd, yr Yspryd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.