1Clodforwch Iehofah, gelwch ar Ei enw,
Hyspyswch ymhlith y bobloedd Ei weithredoedd:
2Cenwch Iddo, tarewch y tannau Iddo,
Canmolwch Ei holl ryfeddodau;
3Ymffrostiwch yn Ei enw sanctaidd,
Llawenyched calon y rhai a geisiant Iehofah;
4Chwiliwch am Iehofah a’i nerth,
Ceisiwch Ei wyneb beunydd;
5Cofiwch Ei ryfeddodau y rhai a wnaeth Efe,
Ei wỳrthiau, a barnedigaethau Ei enau;
6O hâd Abraham Ei was,
Feibion Iacob, Ei etholedigion!
7Efe (yw) Iehofah, ein Duw ni,
Yn yr holl ddaear (y mae) Ei farnedigaethau;
8Cofia Efe yn dragywydd Ei gyfammod,
Y gair a’r a orchymynodd Efe am fil o genhedlaethau,
9Yr hwn a ammododd Efe âg Abraham,
A’i lw i Isaac;
10A gosododd Efe ef i Iacob yn ddeddf,
I Israel yn gyfammod tragywyddol,
11Gan ddywedyd, “I ti y rhoddaf dir Canaan,
Rhandir eich etifeddiaeth.”
12Pan yr oeddynt yn ddynion rhifadwy,
Ychydig, ac yn ddieithriaid ynddo,
13Ac yr ymrodient o genedl i genedl,
O’(r naill) deyrnas at bobl arall,
14Ni adawodd Efe i ddynion eu gorthrymmu,
Eithr ceryddodd, o’u plegid hwy, frenhinoedd,
15 ffon bara a dorrodd Efe;
17Danfonodd o’u blaen hwynt wr,
Yn was y gwerthwyd Ioseph,
18Cystuddiasant, mewn gefyn, ei draed ef,
I mewn i’r haiarn yr aeth ei enaid,
19 air i ben,
(Ac) y bu i leferydd Iehofah ei brofi;
20Danfonodd y brenhin a gollyngodd ef,
Llywodraethwr pobloedd,—a rhyddhâodd ef,
21Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ,
Ac yn llywodraethwr ar ei holl feddiant,
22Fel y rhwymai efe ei dywysogion ef yn ol ei ewyllys ei hun,
Ac i’w henuriaid y dysgai ddoethineb;
23Felly y daeth Israel i’r Aipht,
Ac Iacob a drigodd yn estron yn nhir Ham:
24A ffrwythlonodd Efe Ei bobl yn ddirfawr,
Ac a’u gwnaeth yn gryfach na’u gorthrymwyr;
25 Trodd Efe eu calon hwynt i gashâu Ei bobl,
I Tân flammau yn eu tir;
33A tharawodd eu gwinwydd a’u ffigyswydd,
A drylliodd goed eu bro hwynt:
34Llefarodd Efe,—a daeth y locust,
A llindys yr ŷd, ac heb rifedi,
35A bwyttasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt,
A bwyttasant ffrwyth eu daear;
36A tharawodd Efe bob cyntafanedig yn eu tir hwynt,
hwythau âg arian ac aur,
Ac heb neb yn eu llwythau yn gwegiaw.
38Llawenychodd yr Aipht am fyned o honynt allan,
Canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy:
39Taenodd Efe gwmmwl yn dô,
A thân i oleuo liw nos:
40Gofynnodd (y bobl),—a dug Efe soflieir,
Ac â bara’r nefoedd y gorddigonodd Efe hwynt;
41Agorodd Efe’r graig,—a dylifodd dyfroedd,
A rhedasant ar hyd y crasdiroedd yn afon;
42Canys cofiodd Efe Ei air sanctaidd,
(Ac) Abraham Ei was;
43A dug allan Ei bobl mewn dywenydd,
Ei etholedigion â llawen-gân,
44A rhoddodd iddynt diroedd y cenhedloedd,
A phoenus feddiant y bobloedd a etifeddasant hwy,
45Fel y cadwent Ei ddeddfau Ef,
Ac at Ei gyfreithiau y dalient.
Molwch Iah!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.