Eshaiah 57 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

LVII.

1Y cyfiawn a gyfrgollwyd, ac nid oes a esyd (hyn) at (ei) galon,

A’r gwŷr duwiol a ddygir ymaith heb neb yn deall

Mai o herwydd y drygioni y dygpwyd ymaith y cyfiawn.

2Efe a aiff mewn tangnefedd, efe a orphwys ar ei wely,

(Sef) y perffaith, yr hwn (sy) ’n rhodio yn ei ffordd uniawn.

3Ond chwychwi, nesêwch yma, feibion yr hudoles,

Hâd y godinebwr a’r buttain.

4Ar ben pwy yr ymddigrifwch?

Ar bwy y lledwch safn, (ac) yr estynwch dafod?

Onid chwychwi (ŷch) eppil gwrthryfel, hâd gau?

5Y rhai (ŷch) yn ymwresogi âg eulunod dan bob pren deiliog,

Gan ladd y plant yn y glynnoedd dan holltau ’r creigiau;

6 Ym mysg meini cabol y glyn (y mae) dy ran;

Y rhai hyn, y rhai hyn (yw) dy gwttws;

Hyd y nod iddynt hwy y tywelltaist ddïod-offrwm,

Yr offrymmaist dy aberth:

A’i gyda’r pethau hyn yr ymgysurwn?

7 Ar fynydd uchel a dyrchafedig y gosodaist dy wely;

Hyd yn nod yno y dringaist i aberthu aberth;

8 Ac ynghîl y drws a’r pyst y gosodaist dy goffadwriaeth,

Oddi wrthyf Fi y ciliaist, dringaist, helaethaist dy wely,

A gwnaethost ammod it’ (â rhai) o honynt hwy,

Hoffaist eu gwely hwynt; lle a ddewisaist (iddynt).

9 Ac ymwelaist a’r brenhin âg ennaint,

Ac amlhêaist dy ber-aroglau,

Ac anfonaist dy genhadau i bell,

Ac ymostyngaist hyd uffern;

10Ym maint dy ffordd yr ymflinaist,

Ac ni ddywedaist, Diobaith (yw).

Nerth i’th law a gefaist,

Gan hynny ni lwfrhêaist.

11Ond rhag pwy yr arswydaist ti, ac yr ofnaist fel y gwnait ffalsedd (â Mi),

A Myfi na chofiaist, ac na osodaist (hyn) at dy galon?

Onid am i Myfi dewi ac ymguddio, 2nad 3ofnaist 1Fi?

12Myfi a fynegaf Fy nghyfiawnder

A’th weithredoedd di, ac ni wnant hwy les i ti.

13Pan waeddech, gwareded y rhai a ymgasglodd attat di.

Eithr hwynt oll a ddwg y gwỳnt ymaith, cymmer awel hwynt ymaith;

Ond yr hwn a obeithia ynof Fi a etifedda ’r tir,

Ac a feddianna fynydd Fy sancteiddrwydd.

14Yna dywedaf, Sernwch, sernwch, parottôwch ffordd,

Cyfodwch y rhwystr o ffordd Fy mhobl.

15Canys fel hyn y dywed Iehofah, y Goruchel, a’r Dyrchafedig,

Preswylydd tragywyddoldeb, a Sanct (yw) Ei enw Ef,

Y goruchelder a’r cyssegr a breswyliaf,

A chyda’r briwedig ac isel o yspryd,

I fywhâu y rhai isel o yspryd,

Ac i fywhâu calon y rhai briwedig.

16Canys nid yn dragywydd yr ymrysonaf,

Ac nid am byth y digiaf,

O herwydd yr yspryd o’m blaen I a ballai,

A’r eneidiau a wnaethum I.

17O herwydd anwiredd am ennyd fechan y digiais,

Ac y tarewais ef gan ymguddio, ac y digiais,

Ac efe a aeth gan ddychwelyd ar hŷd ffordd ei galon.

18Ei ffyrdd ef a welais, a Mi a’i hiachâf ef, a thywysaf ef,

Ac adferaf gysur iddo ef a’i alarwŷr,

19 Gan grëu ffrwyth y gwefusau.

Heddwch, heddwch i’r hwn (sy) bell,

Ac i’r hwn (sydd) agos, medd Iehofah, a Mi a’i hiachâf ef.

20Ond y rhai anwir (sy) fel y môr hyrddiedig,

Canys gorphwyso nis gall efe,

Ond fe hyrdda ei ddyfroedd ef dom a llaid.

21Nid (oes) heddwch medd Fy Nuw i’r rhai anwir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help