1A digwyddodd yn Iconium iddynt fyned ynghyd i sunagog yr Iwddewon, a llefaru felly fel y credodd lliaws mawr o Iwddewon ac o Roegwyr hefyd;
2ond yr Iwddewon anghrediniol a gyffroisant ac a ddrwg-ddylanwadasant feddyliau’r cenhedloedd yn erbyn y brodyr.
3Amser maith, gan hyny, yr arhosasant yno, gan lefaru yn hyderus yn yr Arglwydd, yr Hwn a dystiolaethai i Air Ei ras, gan roddi i arwyddion a rhyfeddodau eu gwneuthur trwy eu dwylaw hwynt.
4A rhanwyd lliaws y ddinas; a rhai oedd gyda’r Iwddewon, a rhai gyda’r apostolion.
5A phan wnaethpwyd rhuthr o’r cenhedloedd ac o’r Iwddewon ynghyda’u pennaethiaid, i’w sarhau hwynt ac i’w llabyddio:
6gan wybod hyn, ffoisant i ddinasoedd Lucaonia a Derbe,
7ac i’r wlad oddi amgylch; ac yno yr oeddynt yn efengylu.
8Ac rhyw ddyn yn Lustra yn ddiffrwyth ei draed, a eisteddai, dyn cloff o groth ei fam, yr hwn ni rodiasai erioed.
9Hwn a glybu Paul yn llefaru; yr hwn, wedi edrych yn graff arno,
10a gweled fod ganddo ffydd i’w iachau, a ddywedodd â llais uchel, Saf ar dy draed yn syth; a neidiodd efe, a rhodiodd.
11A’r torfeydd, wedi gweled yr hyn a wnaeth Paul, a godasant eu lleisiau, gan ddywedyd yn iaith Lucaonia, Y duwiau, wedi eu cyffelybu i ddynion,
12a ddisgynasant attom; a galwasant Barnabas “Iwpeter,” a Paul “Mercurius,” gan mai efe oedd yr ymadroddwr pennaf.
13Ac offeiriad teml Iwpiter, yr hon sydd o flaen y ddinas, wedi dyfod â theirw a garlandau at y pyrth, a ewyllysiai, ynghyda’r torfeydd, aberthu.
14Ac wedi clywed hyn, yr apostolion, Barnabas a Paul, gan rwygo eu cochlau,
15a neidiasant allan ymhlith y dyrfa, dan waeddi, a dywedyd, Dynion, paham mai’r pethau hyn a wnewch? Ninnau hefyd, yn dioddef cyffelyb bethau a chwychwi yr ydym, yn ddynion, ac yn efengylu i chwi droi oddi wrth y pethau ofer hyn at y Duw byw, yr Hwn a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a’r holl bethau y sydd ynddynt:
16yr Hwn yn y cenhedlaethau a aethant heibio a adawodd i’r holl genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain:
17ond er hyny, nid heb dystiolaeth y gadawodd Efe Ef ei hun, gan wneuthur daioni, a rhoddi o’r nef i chwi wlawodydd a thymhorau ffrwythlon, a llenwi eich calonnau â lluniaeth a llawenydd.
18A chan ddywedyd y pethau hyn, braidd y gwnaethant i’r torfeydd beidio ag aberthu iddynt.
19A daeth yno Iwddewon, o Antiochia ac Iconium; ac wedi perswadio’r torfeydd a llabyddio Paul, llusgasant ef allan o’r ddinas, gan dybied ei fod wedi marw.
20A’r disgyblion wedi ei amgylchu ef, wedi cyfodi yr aeth i mewn i’r ddinas; a thrannoeth yr aeth allan ynghyda Barnabas i Derbe.
21Ac wedi efengylu i’r ddinas honno, a gwneuthur disgyblion lawer, dychwelasant i Lustra ac i Iconium ac i Antiochia,
22gan gadarnhau eneidiau y disgyblion, gan gynghori iddynt aros yn y ffydd, a dweud mai trwy lawer o orthrymderau y mae rhaid i ni fyned i mewn i deyrnas Dduw.
23Ac wedi dewis iddynt henuriaid ym mhob eglwys, ac wedi gweddïo ynghydag ymprydiau, gorchymynasant hwynt i’r Arglwydd, yn yr Hwn y credasant.
24Ac wedi tramwy trwy Pisidia, daethant i Pamphulia;
25ac wedi llefaru y Gair yn Perga, daethant i wared i Attalea;
26ac oddi yno y mordwyasant i Antiochia, o’r hon y gorchymynasid hwynt i ras Duw i’r gwaith a gyflawnasant.
27Ac wedi dyfod a chasglu’r eglwys ynghyd, mynegasant faint o bethau a wnaeth Duw gyda hwynt, ac yr agorodd Efe i’r cenhedloedd ddrws ffydd.
28Ac arhosasant amser nid bychan ynghyda’r disgyblion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.