1I’r blaengeiniad. I feibion Corah. Awdl addysgiadol.
2O Dduw, â’n clustiau y clywsom,
Ein tadau a fynegasant i ni,
Y weithred a wnaethost yn eu dyddiau hwy,
(Ac) yn y dyddiau gynt, (sef)
3Tydi, Dy law Di,—y cenhedloedd a yrraist allan, a phlennaist hwythau,
Drygaist y bobloedd, a lledanaist hwythau;
4Canys nid â’u cleddyf eu hun y meddiannasant y tir,
A’u braich eu hun, nid hi a’u cynhorthwyodd hwynt,
Ond Dy ddeheulaw Di, a Dy fraich Di, llewyrch Dy wyneb Di,
O herwydd hoffi o Honot hwynt:
5Tydi, Dy hun, (wyt) fy Mrenhin, O Dduw;
Gorchymyn waredigaeth Iacob!
6Trwot Ti y corniwn ein gorthrymwyr,
Trwy Dy enw Di y sathrwn y rhai a gyfodant i’n herbyn,
7Canys nid yn fy mwa yr ymhyderaf,
A’m cleddyf i ni’m gweryd;
8Eithr gwaredaist Ti ni rhag ein gorthrymwyr,
A’n caseion a waradwyddaist.
9I Dduw y canwn fawl beunydd,
A Dy enw, yn dragywydd y’i clodforwn! Selah.
10Ond bwriaist ymaith a gwarthruddaist ni,
Ac nid wyt yn myned allan gyda ’n lluoedd;
11Gwnaethost i ni droi yn ol oddi wrth y gorthrymmwr,
A’n caseion a anrheithiasant iddynt eu hun;
12Rhoddaist ni fel dïadell i’w bwytta,
Ac ym mysg y cenhedloedd y’n gwasgeraist;
13Gwerthaist Dy bobl heb elw,
Ac ni chwanegaist (Dy olud) o’u gwerth hwynt:
14Gosodaist ni yn waradwydd i’n cymmydogion,
Yn watwargerdd ac yn wawd i’r rhai sydd o’n hamgylch;
15Gosodaist ni yn ddïareb ym mysg y cenhedloedd,
Yn rhai i ysgwyd pen arnynt ym mysg y bobloedd;
16Beunydd (y mae) fy ngwarthrudd ger fy mron,
A chywilydd fy ngwyneb a’m gorchuddia,
17O herwydd llais y gwaradwyddwr a’r cablwr,
O herwydd gwyneb y gelyn a’r ymddialgar!
18Hyn oll a ddaeth arnom; ac ni ’th anghofiasom Di,
Ac ni buom anffyddlon yn Dy gyfammod,
19Ac heb wrthgilio o’n calon yn ol,
Na gwyro o’n camrau allan o’th lwybr,
20Fel y malurit ni ynnhrigfa’r dreigiau,
Ac y’n gorchuddit â chysgod angeuaidd.
21Ped anghofiasem enw ein Duw,
A lledu ein dwylaw at dduw dïeithr,
22Onid Duw a chwiliasai hynny allan,
Canys Efe sy’n gwybod dirgeloedd y galon?
23Eithr o’th achos Di y’n lleddir beunydd,
Y’n cyfrifr fel diadell i’w lladd!
24Deffro! pa ham y cysgi, O Arglwydd?
Dihuna, na fwrw ni ymaith am byth!
25Pa ham y cuddi Dy wyneb,
Yr anghofi ein cystudd a’n gorthrymder?
26Canys wedi ei ddarostwng i’r llwch y mae ein henaid,
Glynu wrth y ddaear y mae ein bol.
27Cyfod, O ein Cymmorth,
Rhyddhâ ni er mwyn Dy radlondeb!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.