Psalmau 94 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XCIV.

1O Dduw’r dïalau, Iehofah,

O Dduw’r dïalau, ymddisgleiria!

2Ymddyrcha, Farnwr y ddaear,

Dychwel (eu) gwaith ar y beilchion!

3Hyd ba hyd y caiff yr annuwiolion, O Iehofah,

Hyd ba hyd y caiff yr annuwiolion orfoleddu,

4Y bwrlymant, y llefarant yn eon,

Yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd?

5Dy bobl, O Iehofah, a fathrant hwy,

A’th etifeddiaeth a gystuddiant,

6Y weddw a’r dïeithr a laddant,

A’r amddifaid a ddïeneidiant,

7A dywedant, “Ni wêl Iah,

Ac nid ystyria Duw Iacob (hyn).”

8Ystyriwch, O annoethion ym mysg y bobloedd!

Ac ynfydion, pa bryd y byddwch bwyllog?

9Plannwr y glust,—oni chlyw Efe?

Lluniwr y llygad,—onid edrych Efe?

10Ceryddwr y cenhedloedd,—oni chosp Efe?

—Yr Hwn sy’n dysgu i ddyn wybodaeth!

11Iehofah a ŵyr feddyliau dyn,

Eu bod hwy yn darth!

12Gwyn fyd y gwr a geryddi, O Iah,

Ac, o’th gyfraith, a ddysgi,

13I beri llonydd iddo ef oddi wrth ddyddiau drygfyd,

Hyd oni chloddier i’r annuwiol ffos!

14Canys ni wrthyd Iehofah Ei bobl,

A’i etifeddiaeth ni ad Efe;

15Eithr at gyfiawnder y dychwel barn,

Ac ar Ei ol Ef (yr â)’r holl rai uniawn o galon!

16Pwy a saif o’m plaid yn erbyn y drygionus rai,

Pwy a orsaif o’m plaid yn erbyn gweithredwyr anwiredd?

17Oni (buasai) Iehofah yn gymmorth i mi,

Buan yn preswylio distawrwydd y buasai f’enaid.

18Pan ddywedwyf, “Gogwyddo y mae fy nhroed,”

Dy drugaredd, O Iehofah, a’m cynhal;

19Yn amlder fy meddyliau dirdynawl o’m mewn

Dy gysuron a lawenhânt fy enaid!

20A ymgystlyn â Thi orseddfaingc anfadrwydd,

Yr hon a lunia anwiredd yn erbyn y gyfraith?

21 Ymfinteiant yn erbyn enaid y cyfiawn,

A gwaed gwirion a farnant yn euog;

22Ond bydd Iehofah i mi yn uchelfa,

A’m Duw (fydd) graig fy noddfa;

23Ac fe ddychwel Efe arnynt eu hannuwioldeb,

Ac yn eu drygioni y difa Efe hwynt;

Eu difa hwynt a wna Iehofah ein Duw!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help