Eshaiah 47 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XLVII.

1Disgyn ac eistedd yn y llwch, forwyn ferch Babilon,

Eistedd ar y ddaear, heb orseddfaingc, ferch y Caldeaid,

Canys ni chwannegi mwy iddynt dy alw Y dyner a’r foethus.

2 Cymmer y meini melin, a mala flawd,

Datguddia dy lowethau, noetha dy laeswallt,

Datguddia dy goes, dos trwy’r afonydd.

3Datguddir dy noethni, ië, gwelir dy warth;

Dïal a gymmeraf, ni oddefaf eirioli o ddyn drosot.

4 Ein Hadbrynwr (yw) Iehofah y lluoedd,

Ei enw (Ef) Sanct Israel.

5Eistedd yn ddistaw, a dos i dywyllwch, ferch y Caldeaid,

Canys ni chwannegi mwy iddynt dy alw Arglwyddes y teyrnasoedd.

6 Mi a ddigiais wrth Fy mhobl, halogais Fy etifeddiaeth,

A rhoddais hwynt yn dy law di;

Ni channiattêaist iddynt drugaredd,

Ar yr hên trymhëaist dy iau yn ddirfawr;

7A dywedaist, Yn dragywydd y byddaf Arglwyddes.

O herwydd na roddaist y pethau hyn at (dy) galon,

Na chofiaist yr hyn a ddigwydd i ti;

8Ond yn awr gwrando hyn, ti foethus yn eistedd yn ddiofal,

Yn dywedyd yn dy galon, Myfi (sydd), ac heblaw fi nid neb arall,

Ni chaf eistedd yn weddw, na gwybod dïeppiledd.

9 Ond fe ddaw arnat y ddau hyn mewn amrant,

Mewn un dydd, (sef,) dïeppiledd a gweddwdod;

Yn ddisymmwth y deuant arnat,

Yn amlder dy hudoliaethau a 3dirfawr 1nerth dy 2swynion:

10Ond ymddiriedaist yn dy ddrygioni, a dywedaist Nid (oes) a’m gwêl;

Dy ddoethineb a ’th wybodaeth hon a ’th ŵyrdroisant,

A dywedaist yn dy galon, Myfi (sydd) ac heblaw fi neb arall.

11Am hynny y daw arnat ddrwg (ac) ni chanfyddi wawr,

A syrth arnat ddinystr nas gellych wneuthur cymmod drosto,

A daw arnat yn ddisymmwth ddistryw ag na bu gwybodaeth (o honaw) gennyt.

12Saf yn awr yn dy swynion,

Ac yn amlder dy hudoliaethau, yn y rhai yr ymboenaist o’th ieuengctid,

Ysgatfydd y gelli ganfod lles, ysgatfydd y cadarnhêir di.

13Ymflinaist yn amlder dy gynghorion,

Safed hwy yn awr, a rhodded hwy iachawdwriaeth i ti,

(Sef) y rhai (sy) ’n cyssylltu (arwyddion) y nefoedd, y rhai (sy) ’n tremio ar y sêr,

Y rhai (sy) ’n hyspysu pob mis

Pa beth (yw) ’r hyn a ddaw arnat:

14Wele, y maent fel sofl, y tân a’u llysg hwynt,

Ni waredant eu heinioes eu hunain o law ’r fflam;

Ni (bydd) marworyn i ymdwymno, (na) thân i eistedd ar ei gyfer.

15Felly y bydd i ti y rhai y’r ymboenaist (â hwynt),

Y rhai y bu dy fasnach â hwynt o’th ieuengctid,

Pob un i’w ffordd ei hun y crwydrant,

Ni (bydd) a rydd iachawdwriaeth i ti.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help