S. Luc 19 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac ar ol myned i mewn, yr aeth Efe trwy Iericho.

2Ac wele, gŵr yr hwn wrth ei enw a enwid Zaccëus, ac efe oedd ben treth-gymmerwr, ac efe yn oludog;

3a cheisiai weled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai o’r dyrfa, canys o ran maint, bychan oedd efe.

4Ac wedi rhedeg rhagddo i’r blaen, dringodd i sycamorwydden fel y gwelai Ef, canys y ffordd honno yr oedd Efe ar fyned heibio.

5A phan ddaeth i’r lle, wedi edrych i fynu, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Zaccëus, brysia i ddisgyn, canys heddyw yn dy dŷ di y mae rhaid i Mi aros.

6Ac ar frys y disgynodd, a derbyniodd Ef yn llawen.

7A chan weled, yr oll o honynt a rwgnachasant, gan ddywedyd, At bechadur o ddyn yr aeth i mewn i lettya.

8A chan sefyll, Zaccëus a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy meddiannau, Arglwydd, yr wyf yn ei roddi i’r tlodion; ac os gan neb y cefais ddim ar gam, ei roddi yn ol yr wyf ar ei bedwerydd.

9A dywedodd yr Iesu wrtho, Heddyw, iachawdwriaeth a ddaeth i’r tŷ hwn, gan ei fod ef hefyd yn fab i Abraham,

10canys daeth Mab y Dyn i geisio ac i gadw yr hyn a gollwyd.

11A phan glywent hwy y pethau hyn, chwanegodd ddywedyd dammeg, gan mai agos yr oedd Efe i Ierwshalem, a thybied o honynt mai allan o law yr oedd teyrnas Dduw ar fedr ymddangos.

12Dywedodd, gan hyny, Rhyw ŵr boneddig a aeth i wlad bell i dderbyn iddo ei hun deyrnas, ac i ddychwelyd.

13Ac wedi galw ei ddeg gwas, rhoddes iddynt ddeg maneh, a dywedodd wrthynt, Marchnattewch hyd oni ddelwyf.

14Ond ei ddinaswyr a’i casaent ef, a danfonasant gennadwri ar ei ol, gan ddywedyd, Nid ewyllysiwn i hwn deyrnasu arnom.

15A bu, ar ol dychwelyd o hono, wedi derbyn y frenhiniaeth, y dywedodd hefyd am alw atto y geision hyny i’r rhai y rhoddasai yr arian, fel y gwybyddai pa faint a elwasant wrth farchnatta.

16A daeth y cyntaf gan ddywedyd, Arglwydd, dy faneh a ynnillodd atti ddeg maneh.

17A dywedodd efe wrtho, Da, was da: gan mai mewn peth bychan iawn ffyddlawn fuost, bydd ag awdurdod genyt ar ddeg dinas.

18A daeth yr ail, gan ddywedyd, Dy faneh, arglwydd, a wnaeth bum maneh.

19A dywedodd efe wrth hwnw hefyd, Da, was da; a thydi, bydd ar bum dinas.

20Ac y llall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy faneh, yr hon oedd genyf wedi ei dodi heibio mewn napcyn;

21canys ofnais di gan mai gŵr tost wyt: cymmeryd i fynu yr wyt yr hyn na roddaist i lawr, ac yn medi yr hyn na heuaist.

22Dywedodd efe wrtho, O’th enau y’th farnaf, was drwg. Gwyddit fy mod i yn ddyn tost, yn cymmeryd i fynu yr hyn na roddais i lawr,

23ac yn medi yr hyn na heuais; a phaham na roddaist fy arian at fwrdd yr arianwyr, ac myfi, wedi dyfod, gyda llog y’i cawswn?

24Ac wrth y rhai yn sefyll ger llaw y dywedodd, Cymmerwch oddi arno y faneh, a rhoddwch i’r hwn sydd a deg maneh ganddo.

25A dywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ddeg maneh.

26Dywedaf wrthych I bob un y sydd a chanddo, y rhoddir; ac oddi ar yr hwn nad oes ganddo, hyd yn oed yr hyn y sydd ganddo a gymmerir oddi arno.

27Eithr fy ngelynion hyny, y rhai nid ewyllysiasant i mi deyrnasu arnynt, deuwch â hwynt yma, a lleddwch ger fy mron.

28Ac wedi dweud y pethau hyn, teithiodd o’r blaen, gan fyned i fynu i Ierwshalem.

29A bu pan nesaodd at Bethphage a Bethania, at y mynydd a elwir Mynydd yr Olewydd, danfonodd ddau o’i ddisgyblion,

30gan ddywedyd, Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer, yn yr hwn, wrth fyned i mewn, y cewch ebol yn rhwym, ar yr hwn ni fu i neb o ddynion erioed eistedd: wedi ei ollwng, deuwch ag ef yma.

31Ac os bydd i neb ofyn i chwi, Paham y gollyngwch ef? fel hyn y dywedwch, Yr Arglwydd sydd a rhaid wrtho.

32Ac wedi myned ymaith, y rhai a ddanfonwyd a gawsant fel y dywedodd Efe wrthynt.

33Ac wrth ollwng o honynt yr ebol, dywedodd ei berchennogion wrthynt, Paham y gollyngwch yr ebol?

34A hwy a ddywedasant, Yr Arglwydd sydd a rhaid wrtho ef;

35a daethant ag ef at yr Iesu; ac wedi bwrw eu cochlau eu hunain ar yr ebol, dodasant yr Iesu arno.

36Ac wrth fyned o Hono rhagddo, tanasant eu cochlau ar y ffordd.

37Ac wrth nesau o Hono yn awr, wrth ddisgynfa mynydd yr Olewydd, dechreuodd holl luaws y disgyblion, dan lawenychu, glodfori Duw â llef uchel am yr holl wyrthiau a welsent,

38gan ddywedyd,

Bendigedig yw’r Brenhin sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd,

Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchafion.

39A rhai o’r Pharisheaid o’r dyrfa a ddywedasant Wrtho, Athraw, dwrdia Dy ddisgyblion.

40A chan atteb, dywedodd, Dywedaf wrthych, Os y rhai hyn a dawant, y cerrig a waeddant.

41A phan nesaodd, gan weled y ddinas, gwylodd drosti,

42gan ddywedyd,

Pe gwybuasit yn y dydd hwn, ïe, tydi, y pethau i’th heddwch!

Ond yn awr, cuddiwyd hwynt oddiwrth dy lygaid.

43Canys daw’r dyddiau arnat, ac y bwrw dy elynion glawdd o’th amgylch,

Ac amgylchynant di, a gwarchaeant di o bob parth,

44A drylliant ti a’th blant o’th fewn,

Ac ni adawant faen ar faen ynot,

Gan nad adnabuost amser dy ymweliad.

45Ac wedi myned i mewn i’r deml, dechreuodd fwrw allan y rhai yn gwerthu,

46gan ddywedyd wrthynt, Ysgrifenwyd,

“A bydd Fy nhŷ yn dŷ gweddi;”

a chwychwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron.

47Ac yr oedd Efe yn dysgu beunydd yn y deml. A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisient Ei ladd Ef,

48ac felly hefyd pennaethiaid y bobl: ond ni chaent pa beth a wnaent, canys y bobl oll oedd ynglyn Wrtho, dan wrandaw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help