1Brodyr a thadau, gwrandewch fy ymddiffyn presennol wrthych.
2Ac wedi clywed mai yn iaith yr Hebreaid y llefarai wrthynt, mwy y gwnaethant osteg, ac ebr efe,
3Myfi wyf Iwddew, wedi fy ngeni yn Tarsus o Cilicia, wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, wedi fy athrawiaethu yn ol manylrwydd Cyfraith ein tadau, yn selog dros Dduw, fel y mae pawb o honoch chwi heddyw.
4Ac y Grefydd hon a erlidiais i hyd angau, gan rwymo a thraddodi i garcharau ddynion a gwragedd hefyd,
5fel y mae’r archoffeiriad yn tystio i mi a’r holl henaduriaeth hefyd, gan y rhai wedi derbyn o honof lythyrau at y brodyr, ar y ffordd i Damascus yr oeddwn, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Ierwshalem, fel y cospid hwynt.
6A digwyddodd i mi ar fy ffordd, ac yn nesau at Damascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymmwth, o’r nef y disgleiriodd goleuni mawr o’m hamgylch;
7a syrthiais ar y llawr, a chlywais lais yn dywedyd wrthyf,
8Shawl, Shawl, paham yr wyt yn Fy erlid I? Ac myfi a attebais, Pwy wyt, Arglwydd? A dywedodd wrthyf, Myfi wyf Iesu y Natsaread, yr Hwn yr wyt ti yn Ei erlid.
9Ac y rhai oedd gyda mi, y goleuni a welsant, ond llais yr hwn a lefarai wrthyf ni ddeallasant.
10A dywedais, Pa beth a wnaf, Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Wedi cyfodi, dos i Damascus, ac yno wrthyt y lleferir am yr holl bethau yr appwyntiwyd i ti eu gwneuthur.
11A phan na welwn gan ogoniant y goleuni hwnw, gan fy nhywys erbyn fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, y daethum i Damascus.
12Ac un Ananias, gŵr defosiynol yn ol y Gyfraith a thystiolaeth iddo gan yr holl Iwddewon, oedd yn preswylio yno,
13wedi dyfod attaf a sefyll gerllaw, a ddywedodd wrthyf, Shawl, frawd, derbyn dy olwg; ac myfi yr awr honno, a edrychais arno.
14Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau a’th appwyntiodd i wybod Ei ewyllys, ac i weled y Cyfiawn, ac i glywed llais o’i enau Ef;
15canys byddi dyst Iddo, wrth bob dyn, o’r pethau a welaist ac a glywaist.
16Ac yn awr, paham yr oedi? Cyfod: bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar Ei enw Ef.
17A digwyddodd i mi, ar ol dychwelyd i Ierwshalem, ac wrth weddïo o honof yn y deml,
18yr oeddwn mewn llewyg, ac y gwelais Ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos allan, ar frys, o Ierwshalem, canys ni dderbyniant dy dystiolaeth di am Danaf.
19Ac myfi a ddywedais, Arglwydd, hwy a wyddant mai myfi oeddwn yn carcharu ac yn curo ymhob sunagog y rhai a gredent Ynot;
20a phan dywalltwyd gwaed Stephan, Dy ferthyr, minau hefyd oeddwn yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynied, ac yn cadw cochlau y rhai yn ei ladd ef.
21A dywedodd wrthyf, Dos, canys Myfi, at y cenhedloedd, ymhell a’th ddanfonaf allan.
22A gwrandawsant arno hyd y gair hwn, a chodasant eu llef gan ddywedyd, Ymaith oddiar y ddaear â’r fath ddyn, canys nid cymmwys iddo fyw.
23Ac wrth waeddi o honynt a bwrw eu cochlau,
24a thaflu llwch i’r awyr, gorchymynodd y milwriad ei ddwyn ef i’r castell, gan orchymyn ei holi ef gyda fflan-gellau, fel y gwybyddai am ba achos y llefent felly yn ei erbyn.
25A phan rwymasant ef â’r carreiau, wrth y canwriad oedd yn sefyll gerllaw y dywedodd Paul, Rhufeiniad, ac heb ei gondemnio, ai cyfreithlawn i chwi ei fflan-gellu?
26Ac wedi clywed hyn, y canwriad, wedi myned at y milwriad, a fynegodd, gan ddywedyd, Pa beth yr wyt ar fedr ei wneuthur; canys y dyn hwn, Rhufeiniad yw?
27Ac wedi dyfod atto, y milwriad a ddywedodd wrtho, Dywaid i mi, tydi, ai Rhufeiniad wyt? Ac efe a ddywedodd, Ië.
28Ac attebodd y milwriad, Myfi â swm mawr a gefais y ddinas-fraint hon. A Paul a ddywedodd, Ac myfi a anwyd felly.
29Yn uniawn, gan hyny, y safodd oddi wrtho y rhai ar fedr ei holi ef; a’r milwriad hefyd a ofnodd, pan wybu mai Rhufeiniad ydoedd, ac am iddo ei rwymo ef.
30A thrannoeth, gan chwennychu gwybod y sicrwydd o ba beth y cyhuddid ef gan yr Iwddewon, gollyngodd ef yn rhydd; a gorchymynodd ddyfod ynghyd o’r archoffeiriad a’r holl gynghor, ac wedi dwyn Paul i wared, gosododd ef ger eu bron.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.