S. Matthew 21 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A phan nesasant at Ierwshalem, ac eu dyfod i Bethphage, i fynydd yr Olewydd, yna yr Iesu a ddanfonodd ddau ddisgybl,

2gan ddywedyd wrthynt, Ewch i’r pentref ar eich cyfer, ac yn uniawn y cewch asen yn rhwym, ac ebol ynghyda hi: wedi eu gollwng dewch â hwynt Attaf.

3Ac os neb a ddywaid ddim wrthych, dywedwch, yr Arglwydd sydd â rhaid wrthynt; ac yn uniawn y denfyn efe hwynt.

4A hyn a ddigwyddodd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy’r prophwyd, gan ddywedyd,

5“Dywedwch wrth Ferch Tsion, Wele, dy Frenin sy’n dyfod attat,

Yn addfwyn, ac yn eistedd ar asyn ac ar ebol llwdn ysgrubl.”

6Ac wedi myned o’r disgyblion, ac wedi gwneud fel y pennodasai’r Iesu iddynt,

7daethant â’r asen a’r ebol, a dodasant arnynt eu cochlau;

8a gosodasant Ef ar hyny. A’r rhan fwyaf o’r dyrfa a daenasant eu cochlau eu hunain ar y ffordd; ac eraill a dorrasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar y ffordd:

9a’r torfeydd a oedd yn myned o’i flaen Ef, ac y rhai oedd yn dyfod ar ol, a waeddasant gan ddywedyd,

“Hoshanna i Fab Dafydd,

Bendigedig yw’r Hwn sy’n dyfod yn enw Iehofa,

Hoshanna yn y goruchafion!”

10Ac wedi dyfod o Hono i mewn i Ierwshalem, cynnyrfwyd yr holl ddinas, gan ddywedyd, Pwy yw Hwn?

11A’r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw’r Prophwyd, Iesu, yr Hwn sydd o Natsareth yn Galilea.

12Ac aeth yr Iesu i mewn i deml Dduw, a thaflodd allan yr holl rai oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml; a byrddau y newidwyr arian a ddymchwelodd Efe, a chadeiriau y rhai yn gwerthu colommenod:

13a dywedodd wrthynt, Ysgrifenwyd,

“Fy nhŷ I, tŷ gweddi y’i gelwir,”

ond chwychwi sydd yn ei wneud ef yn ogof lladron.

14A daeth Atto ddeillion a chloffion, yn y deml, ac iachaodd Efe hwynt.

15Ac wrth weled o’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnai Efe, ac y plant yn gwaeddi yn y deml ac yn dywedyd, “Hoshanna i Fab Dafydd,”

16llidiasant, a dywedasant Wrtho, A glywi Di beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Clywaf. Oni fu i chwi erioed ddarllen,

“O enau plant aflafar a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?”

17A chan eu gadael, yr aeth allan o’r ddinas i Bethania, a llettyodd yno.

18A’r bore, pan ddychwelai i’r ddinas, yr oedd Arno chwant bwyd;

19a chan weled ffigysbren ar y ffordd, daeth atto, ac ni chafodd ddim arno oddieithr dail yn unig, a dywedodd wrtho, Ddim mwy, oddi arnat ti, na fydded ffrwyth am byth; a chrino yn uniawn a wnaeth y ffigysbren.

20Ac wrth weled, y disgyblion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymmwth y crinodd y ffigys-bren!

21A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Os bydd genych ffydd ac nad ammeuwch, nid yn unig yr hyn a fu i’r ffigys-bren a wnewch, eithr os hyd yn oed wrth y mynydd hwn y dywedwch, Coder di i fynu a’th fwrw i’r môr, digwydda;

22a phob peth cymmaint ag a ofynoch mewn gweddi, a than gredu, a dderbyniwch.

23Ac wedi dyfod o Hono i’r deml, daeth Atto, pan yn athrawiaethu, yr archoffeiriaid ac henuriaid y bobl, gan ddywedyd, trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? A phwy a roddes i Ti yr awdurdod hon?

24A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gofynaf Finnau hefyd i chwithau un gair, yr hwn os ei mynegwch i Mi, Minnau hefyd a ddywedaf i chwithau “trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.”

25Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? Ai o’r nef, neu o ddynion? A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, “O’r nef,” dywaid Efe wrthym, Paham, gan hyny, na chredasoch ef?

26ac os dywedwn, “O ddynion,” y mae arnom ofn y bobl, canys pawb a gymmerant Ioan megis prophwyd.

27A chan atteb i’r Iesu, dywedasant, Nis gwyddom. Wrthynt hwy y dywedodd Efe hefyd, Nid wyf Finnau chwaith yn dywedyd wrthych “Trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.”

28Ond pa beth yw eich barn chwi? Yr oedd gŵr a chanddo ddau fab. Ac wedi dyfod at y cyntaf, dywedodd, Fy mab, dos,

29gweithia heddyw yn y winllan: ac efe, gan atteb, a ddywedodd, Nid ewyllysiaf, ond gwedi’n wedi edifarhau o hono, yr aeth.

30Ac wedi dyfod at yr ail, dywedodd yr un modd; ac efe, gan atteb, a ddywedodd, Myfi a af, arglwydd; ac nid aeth.

31Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant, Y cyntaf. Dywedodd yr Iesu wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Y treth-gymmerwyr a’r putteiniaid a ant o’ch blaen chwi i mewn i deyrnas Dduw:

32canys attoch y daeth Ioan gyda chrefydd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y treth-gymmerwyr a’r putteiniaid a’i credasant ef; a chwychwi, wedi gweled, nid edifarhasoch ar ol hyny fel y credech ef.

33Clywch ddammeg arall. Yr oedd dyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan; a chae a osododd efe yn ei chylch; a chloddiodd ynddi win-wryf: ac adeiladodd dŵr; a gosododd hi i lafurwyr; ac aeth i wlad ddieithr.

34A phan nesaodd amser ffrwythau, danfonodd ei weision at y llafurwyr i dderbyn ei ffrwythau hi.

35A’r llafurwyr, wedi dal ei weision, un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.

36Trachefn y danfonodd weision eraill, fwy na’r rhai cyntaf; a gwnaethant iddynt yn yr un modd.

37A chwedi’n y danfonodd attynt ei fab, gan ddywedyd, Parchant fy mab.

38Ond y llafurwyr, wedi gweled y mab, a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw’r etifedd; deuwch; lladdwn ef; a chymmerwn ei etifeddiaeth.

39Ac wedi ei ddal ef, bwriasant ef allan o’r winllan, a lladdasant ef.

40Gan hyny, pan ddêl arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i’r llafurwyr hyny?

41Dywedasant Wrtho, Y drygddynion â drygfyd y difetha hwynt; a’r winllan a esyd efe i lafurwyr eraill, y rhai a dalant iddo y ffrwythau yn eu hamser.

42Dywedodd yr Iesu wrthynt, oni fu i chwi erioed ddarllen yn yr Ysgrythyrau,

“Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,

Hwn a aeth yn ben i’r gongl;

Oddiwrth yr Arglwydd y bu hyn,

Ac y mae yn rhyfeddol yn ein golwg.”

43Am hyny dywedaf wrthych, Oddi arnoch y dygir teyrnas Dduw, a rhoddir hi i genedl yn dwyn ei ffrwythau hi.

44A’r hwn a syrthio ar y “maen” hwn, a ddryllir; ac ar yr hwn y syrthio, mâl efe ef yn chwilfriw.

45Ac wedi clywed o’r archoffeiriaid a’r Pharisheaid y damhegion hyn, gwybuant mai am danynt hwy y dywedasai Efe;

46ac wrth geisio o honynt Ei ddala Ef, ofnasant y torfeydd gan mai yn brophwyd y cymmerent Ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help