1Cân y graddau. Eiddo Dafydd.
Llawenychais o blegid y rhai a ddywedent wrthyf,
“I dŷ Iehofah yr awn.”
2Sefyll y byddai ein traed
O fewn dy byrth di, O Ierwshalem!
3Ierwshalem, yr adeiledig
Fel dinas a gafodd iddi ei hun ymgyssylltiad hollol;
4I’r hon yr esgynai’r llwythau,
Llwythau Iah, yn ol yr ordinhad i Israel,
I foliannu enw Iehofah;
5 Canys yno y gosodwyd gorseddfeingciau i farn,
Gorseddfeingciau i dŷ Dafydd.
6Dymunwch heddwch Ierwshalem!
Llwydded y rhai a’th hoffont di!
7Bydded heddwch yn dy ragfur,
Llwyddiant yn dy balasau!
8Er mwyn fy mrodyr a’m cyfeillion,
Dywedwyf, attolwg, “Heddwch (fo) ynot!”
9Er mwyn tŷ Iehofah, ein Duw,
Y ceisiaf ddaioni i ti!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.