Psalmau 31 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXXI.

1I’r blaengeiniad. Psalm o eiddo Dafydd.

2Ynot Ti, O Iehofah, yr ymnoddaf; na’m cywilyddier yn dragywydd!

Yn Dy gyfiawnder Di dyro ddïangc i mi!

3Gogwydda attaf Dy glust; ar frys achub fi!

Bydd i mi yn graig cadarnfa,

Yn dŷ uchelfa, er mwyn fy ngwared!

4Canys fy Nghraig, a’m Huchelfa Tydi (ydwyt),

Ac er mwyn Dy enw y’m tywysi, ac y’m harweini,

5Y’m tynni allan o’r rhwyd a guddiasant i mi,

Canys Tydi (yw) fy Nghadarnfa:

6I’th law Di y gorchymynaf fy yspryd;

Rhyddhäit fyfi, O Iehofah, Duw y gwirionedd:

7Cashâu yr wyt ddisgwylwyr wrth ofer bethau gwagedd,—

Eithr myfi, yn Iehofah yr ymddiriedaf.

8Bydded i mi orfoleddu a llawenychu yn Dy radlondeb,

Am i Ti weled fy nghystudd,

I Ti adnabod fy enaid mewn cyfyngderau,

9Ac i Ti beidio â’m traddodi i law y gelyn,

I Ti osod fy nhroed mewn ehangder.

10Bydd radlawn wrthyf, O Iehofah, canys cyfyng (yw) arnaf,

Heneiddio gan ofid a wnaeth fy llygad,

Fy enaid, ac fy mol!

11Canys pallu gan dristwch a wnaeth fy mywyd,

A’m blynyddoedd gan ochain

Tramgwyddo o herwydd fy anwiredd a wnaeth fy nerth,

A’m hesgyrn a heneiddiasant!

12O herwydd fy holl elynion yr aethum yn waradwydd,

Ac i’m cym’dogion (felly) yn ddirfawr,

Ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant;

Y rhai a’m gwelont allan a fföant oddi wrthyf!

13Anghofiwyd fi, fel un marw, allan o feddwl,

Aethum yn debyg i lestr methedig!

14 Canys clywais ogan llaweroedd; dychryn sydd oddi amgylch;

Wrth gydymgynghori o honynt yn fy erbyn,

Cymmeryd fy mywyd a fwriadasant.

15Eithr myfi,—ynot Ti yr ymddiriedaf, O Iehofah,

Dywedais, “Fy Nuw Tydi (ydwyt)!”

16Yn Dy law Di (y mae) fy amseroedd;

Achub fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr!

17Llewyrcha Dy wyneb ar Dy was,

Gwared fi yn Dy drugaredd!

18O Iehofah, na’m cywilyddier, canys galw yr wyf Arnat!

Cywilyddier y drygionus rai, distawed hwynt (gan fyned) i annwn!

19Gosteger gwefusau gau,

Y rhai sy’n dywedyd yn erbyn y cyfiawn yr hyn sydd eon,

Mewn balchder a dirmyg!

20Mor fawr (yw) Dy ddaioni,

Yr hwn a drysoraist i’r sawl a’th ofnant,

A wnaethost i’r sawl sy’n ymnoddi Ynot,

Ger bron meibion dynion!

21Eu cuddio yr wyt ynghuddfa Dy wyneb rhag terfysgoedd dynion,

Eu celu yr wyt mewn bwth rhag cynnen tafodau.

22Bendigedig (fo) Iehofah,

Canys rhyfedd radlondeb a ddangosodd Efe i mi

Mewn dinas gaerog!

23Ond myfi,—dywedais yn fy nychryn, “Torrwyd fi ymaith oddi ger bron Dy lygaid;”

Er hynny gwrandewaist ar lais fy ymbil

Wrth lefain o honof arnat Ti!

24Cerwch Iehofah, Ei holl saint Ef!

Y ffyddloniaid a geidw Iehofah,

A thalu yn ehelaeth (y mae) Efe i arferwr balchder.

25Ymgryfhêwch, ac ymwroled eich calon,

Chwi oll sy’n disgwyl wrth Iehofah!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help