1O na rwygit y nefoedd, na ddisgynit,
Ac o’th flaen Di na fyddai i’r mynyddoedd doddi,
2Fel y llysg tân sofl wedi llawn-wywo,
Fel y pair 3tân i 1ddyfroedd 2ferwi,
Er mwyn hyspysu Dy enw i’th elynion,
Ac o’th flaen Di i’r cenhedloedd grynu!
3Pan wnaethost bethau ofnadwy heb i ni ddisgwyl (am danynt)
Disgynaist; o’th flaen Di y mynyddoedd a doddasant.
4Ac erioed ni chlywodd (dynion), ni dderbyniasant â chlust,
A llygad ni welodd Dduw heblaw Tydi,
A weithredai i’r rhai a ddisgwylient wrtho.
5Cyfarfyddi, â llawenydd, yr hwn a wnêl gyfiawnder,
(A’r rhai) yn Dy ffyrdd a’th gofiant;
Wele Tydi a ddigiaist o herwydd pechu o honom:
(Pe buasem) yn (y ffyrdd) hynny erioed, ni a gawsem iachawdwriaeth:
6Eithr yr ydym megis (peth) aflan bob un o honom,
Ac fel cadach misglwyf ein holl gyfiawnderau,
A gwywasom, fel deilen, bob un o honom,
A’n hanwireddau, fel gwynt, a’n dug ymaith.
7Nid (oes) a alwo ar Dy enw,
A ymddeffro i ymaflyd ynot,
Canys cuddiaist Dy wyneb oddi wrthym,
A thraddodaist ni i law ein hanwireddau.
8Ond yn awr, O Iehofah, ein Tad ni Tydi (wyt),
Nyni y clai, a Thydi a’n lluniaist,
A gwaith Dy ddwylaw (ydym) ni oll.
9Na ddigia, O Iehofah, hŷd yn ddirfawr,
Ac nid yn dragywydd na fydded it’ gofio anwiredd!
Wele, edrych, attolwg: Dy bobl (ydym) ni oll.
10Dinasoedd Dy sancteiddrwydd a aethant yn anialwch,
Tsïon yn ddiffaethwch a aeth, Ierwshalem yn anghyfannedd.
11Tŷ ein sancteiddrwydd a’n prydferthwch,
(Yn) yr hwn y moliannai 『2ein tadau』 1Di
A aeth yn llosgedd tân,
A’n holl bethau dymunol a aethant yn adfail.
12Ai wrth hyn yr ymatteli, O Iehofah,
Y tewi, ac y’n cystuddi hyd yn ddirfawr?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.