Iago 2 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Fy mrodyr, nid gyda derbyn gwynebau bydded genych ffydd ein Harglwydd Iesu Grist, Arglwydd y gogoniant.

2Canys os daw i mewn i’ch cynnull-fan ŵr â modrwy aur, mewn gwisg ddisglaer, a dyfod i mewn hefyd o dlodyn mewn gwisg fudr;

3ac edrych o honoch ar yr hwn sydd wedi ymwisgo â’r wisg ddisglaer, a dywedyd, Tydi, eistedd yma mewn lle da, ac wrth y tlodyn y dywedoch, Tydi, saf accw,

4neu eistedd is law fy ’stol-droed, oni wahanwyd chwi yn eich plith eich hunain, a myned yn farnwyr drwg eu meddyliau?

5Gwrandewch, fy mrodyr anwyl; oni fu i Dduw ddewis y tlodion yn y byd i fod yn oludog mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd Efe i’r rhai sydd yn Ei garu Ef?

6Ond chwychwi a ddianrhydeddasoch y tlodyn! Onid y rhai goludog sy’n tra-arglwyddiaethu arnoch, a hwynt-hwy sydd yn eich llusgo ger bron brawdleoedd?

7Onid hwy sy’n cablu yr enw ardderchog a alwyd arnoch?

8Beth bynnag, os y gyfraith frenhinol a gyflawnwch, yn ol yr Ysgrythyr, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun,” da yr ydych yn gwneuthur;

9ond os derbyn gwyneb yr ydych, pechod yr ydych yn ei wneud, yn cael eich argyhoeddi gan y Gyfraith megis troseddwyr;

10canys y neb sydd a’r holl Gyfraith yn cael ei chadw ganddo, ond tripio o hono mewn un pwngc, o’r oll yr aeth yn euog.

11Canys yr Hwn a ddywedodd, “Na odineba,” a ddywedodd hefyd, “Na ladd;” ac os godinebu nad wyt, ond yn lladd, yn droseddwr y Gyfraith yr aethost.

12Felly lleferwch, ac felly gwnewch, fel trwy gyfraith rhyddid i gael eich barnu;

13canys y farn sydd ddi-drugaredd i’r hwn na wnaeth drugaredd. Ymffrostio y mae trugaredd uwch ben barn.

14Pa beth yw’r llesad, fy mrodyr, os dywaid neb, Y mae ffydd genyf, ond gweithredoedd heb fod ganddo? A ddichon ffydd ei gadw ef?

15Os brawd neu chwaer fydd noeth,

16ac mewn eisiau ymborth beunyddiol, a dywedyd o ryw un o honoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, a llanwer chwi, ond heb roddi o honoch iddynt y pethau angenrheidiol i’r corph, pa beth yw’r llesad?

17Felly hefyd ffydd, os na fydd ganddi weithredoedd, marw yw ynddi ei hun.

18Eithr fe ddywaid rhyw un, Tydi wyt a ffydd genyt; ac myfi wyf a gweithredoedd genyf: dangos i mi dy ffydd yn wahan oddiwrth dy weithredoedd; ac myfi a ddangosaf i ti, trwy fy ngweithredoedd, fy ffydd i.

19Tydi wyt yn credu mai un yw Duw: da yr wyt yn gwneuthur; a’r cythreuliaid a gredant, ac a arswydant.

20Ond a ewyllysi di wybod, O ddyn ofer, fod ffydd, yn wahan oddiwrth weithredoedd, yn ddifudd?

21Abraham ein tad, onid trwy weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymmodd Itsaac, ei fab, ar yr allor?

22Gweli yr oedd ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd, a thrwy’r gweithredoedd ffydd a berffeithiwyd;

23a chyflawnwyd yr Ysgrythyr y sy’n dywedyd, “A chredodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder; a chyfaill Duw y galwyd ef.”

24Gwelwch mai trwy weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid trwy ffydd ar ei phen ei hun.

25Ac yr un ffunud, Rahab hefyd, y buttain, onid trwy weithredoedd y’i cyfiawnhawyd, wrth dderbyn o honi y cenhadau, a’u danfon ymaith ffordd arall?

26Canys fel y mae’r corph, yn wahan oddiwrth yr yspryd, yn farw; felly hefyd ffydd, yn wahan oddiwrth weithredoedd, marw yw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help