1Paul, gwas i Dduw, ac apostol i Iesu Grist, yn ol ffydd etholedigion Duw a gwybodaeth y gwirionedd y sydd yn ol duwioldeb,
2yngobaith bywyd tragywyddol, yr hwn a addawodd y digelwyddog Dduw cyn yr amseroedd tragywyddol,
3ac a amlygodd yn Ei amseroedd priodol Ei air yn y Cyhoeddiad a ymddiriedwyd i myfi yn ol gorchymyn ein Hiachawdwr Duw,
4at Titus fy ngwir blentyn yn ol y ffydd gyffredinol: gras, a thangnefedd oddiwrth Dduw Dad a Christ Iesu ein Hiachawdwr.
5Er mwyn hyn y’th adewais yn Creta, fel yr iawn-drefnit y pethau oedd ar ol, ac y gosodit ym mhob dinas henuriaid fel y gorchymynais i i ti.
6Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a phlant ganddo yn credu, heb eu cyhuddo o afradlondeb, nac yn afreolus:
7canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd, megis disdain Duw; nid yn gyndyn, nid yn ddigllawn, nid yn gwerylus, nid yn darawydd, nid yn budr-elwa;
8eithr yn lletteugar, yn caru’r hyn sy dda, yn sobr ei feddwl, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn feistr arno ei hun,
9yn dal at y Gair ffyddlawn y sydd yn ol dysgad, fel y bo yn abl i gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac i argyhoeddi y rhai sy’n gwrth-ddywedyd.
10Canys y mae llawer yn afreolus, yn ofer-siaradus a cham-arweinwyr,
11yn enwedig y rhai o’r amdorriad, y rhai y mae rhaid cau eu safnau; y rhai, tai cyfan a ddymchwelant, gan ddysgu y pethau na ddylid, er mwyn budr elw.
12Dywedodd rhyw un o honynt, prophwyd o honynt eu hunain, “Cretiaid bob amser yn gelwyddwyr, drwg fwystfilod, boliau diog.”
13Y dystiolaeth hon sydd wir; am ba achos argyhoedda hwynt yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd,
14heb ddal ar chwedlau Iwddewaidd, a gorchymynion dynion yn troi oddiwrth y gwirionedd.
15Pob peth sydd bur i’r rhai pur; ond i’r rhai halogedig a di-ffydd nid oes dim yn bur, eithr halogwyd eu deall hwy a’u cydwybod.
16Adnabod Duw a broffesant, ond â’u gweithredoedd y gwadant Ef, gan fod yn ffiaidd, ac yn anufudd, ac at bob gweithred dda yn anghymmeradwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.