1Ynot Ti, O Iehofah, yr ymnoddaf;
Na’m cywilyddier byth!
2Yn Dy gyfiawnder achub fi, a gwared fi,
Gogwydda attaf Dy glust, a chymmorth fi!
3Bydd i mi yn graig gadarn, i fyned bob amser (iddi)!
— Gorchymynaist fy nghynhorthwyo,
Canys fy nghlegr a’m hamddiffynfa Tydi (ydwyt),—
4Fy Nuw, gwared fi o law’r annuwiol,
O gledr llaw’r anghyfiawn a threisig,
5Canys Tydi (wyt) fy ngobaith,
O Arglwydd Iehofah! fy hyder o’m hieuengctid;
6Wrthyt Ti y’m cynhahwyd o’r bru,
O groth fy mam, Tydi fuost gymmwynasgar wrthyf:
Am danat Ti (y mae) fy mawl yn wastad:
7Megis yn rhyfeddod yr aethum i laweroedd,
Ond Tydi (oeddit) fy noddfa gadarn;
8Llenwir fy ngenau â’th foliant,
Beunydd â’th ogoniant!
9Na fwrw fi ymaith yn amser henaint,
Yn niflanniad fy nerth na âd fi,
10Canys dywedodd fy ngelynion am danaf,
Y cynllwynwyr am fy einioes a ymgynghorasant ynghŷd,
11Gan ddywedyd, “Duw a’i gadawodd ef,
Erlidiwch a deliwch ef, canys nid oes achubydd.”
12O Dduw, na fydd bell oddi wrthyf,
O fy Nuw, i’m cymmorth tyred ar frys!
13Cywilyddier, diflanned gelynion fy einioes,
Gorchuddied gwarth a gwaradwydd y rhai sy’n ceisio drwg i mi!
14Eithr myfi,—beunydd y gobeithiaf,
A chwanegaf at Dy holl fawl;
15Fy ngenau a lefara am Dy gyfiawnder,
(Ië) beunydd am Dy waredigaeth,
Canys nis gwn derfyn (arni);
16Deuaf ymlaen gyda gweithredoedd nerthol yr Arglwydd Iehofah,
Coffhâf Dy gyfiawnder, yr eiddot Ti yn unig.
17O Dduw, dysgaist fi o’m hieuengctid,
Ac hyd yn hyn yr wyf yn adrodd Dy ryfeddodau;
18Ac hyd henaint a phenllwydni, O Dduw, na âd fi,
Hyd oni adroddwyf Dy fraich i’r genhedlaeth,
I bob un a ddelo, Dy gadernid!
19A’th gyfiawnder, O Dduw, (sydd) hyd at yr uchelder,
Yr Hwn a wnaethost bethau mawrion;
O Dduw, pwy (sydd) fel Tydi?
20Yr Hwn a wnaethost i mi weled cyfyngderau aml a blin,
Trachefn y bywhêi fi,
Ac o orddyfnderau ’r ddaear trachefn y’m cyfodi,
21Amlhâi fy mawredd,
Ac eilchwyl y’m cysuri;
22A myfi,—moliannaf Di ar offeryn nabl,
(Sef) Dy ffyddlondeb, O Dduw,
Canaf it’ â’r delyn, O Sanct Israel;
23Llawengân fy ngwefusau, pan darawyf y tannau i Ti,
A’m henaid yr hwn a ryddheaist;
24A’m tafod beunydd a draetha Dy gyfiawnder,
O herwydd cywilyddiwyd, o herwydd gwaradwyddwyd y rhai sy’n ceisio drwg i mi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.