1Barn fi, O Dduw, a dadla fy nadl rhag y genhedlaeth ansanctaidd,
Rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn dyro ddïanc i mi!
2Canys Tydi (wyt) Dduw fy ymddiffynfa: pa ham y’m ffieiddiaist,
Pa ham y rhodiaf yn alarus, yngorthrymder y gelyn?
3Danfon Dy oleuni a’th ffyddlondeb! boed iddynt hwy fy nhywys,
Boed iddynt fy nwyn at fynydd Dy sancteiddrwydd, ac at Dy drigfëydd,
4Fel y delwyf at allor Duw,
At Dduw, hyfrydwch fy ngorfoledd,
Ac y’th foliannwyf ar y delyn, O Dduw, fy Nuw!
5Pa ham y’th ddarostyngir, O fy enaid, ac yr ymderfysgi ynof?
—Disgwyl wrth Dduw, canys etto y câf Ei foliannu Ef,
Iachawdwriaeth fy ngwyneb, ac fy Nuw!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.